Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn gweithio'n agos gyda phum Ymddiriedolaeth Natur Cymru. Yng Nghymru, mae dros 100 o bobl yn cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaethau Natur ac mae dros 2,000 o wirfoddolwyr!
Nid oes llawer o amser ar ôl i sicrhau y bydd y Bil Amaeth(Cymru) newydd yn galluogi adfer bywyd gwyllt yng Nghymru. Er gwaethaf misoedd o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Bil ar hyn o bryd yn anwybyddu pwysigrwydd adfer natur.
Gweithiwn yn galed iawn i roi llais i natur. Rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau dyfodol i fywyd gwyllt Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â phartneriaid eraill i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio tuag at adferiad natur yng Nghymru.
Mae Prifysgol Caerwysg yn gwahodd trigolion Cymru i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n ymchwilio i agweddau tuag at Afancod Ewrasiaidd (Castor fiber) yng Nghymru.
Mae gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru nifer o brosiectau partneriaeth sy'n dod â phobl yn agosach at natur, ac yn sicrhau Dyfodol Wilder i fywyd gwyllt yng Nghymru.
Mae'r Ymddireiedolaeth Natur Cymru yn un o 46 o Ymddiriedolaethau Natur yn y DU. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaethau Natur eraill yng Nghymru i sicrhau Dyfodol Gwylltach i Gymru.
Y flwyddyn nesaf, bydd etholiad cyffredinol yn y DU. Er bod yr amgylchedd, ffermio a physgodfeydd wedi’u datganoli (penderfyniadau’n cael eu gwneud yn eu cylch yng Nghaerdydd), rydyn ni'n parhau i fod angen i bleidleiswyr yng Nghymru anfon neges glir at ASau eu bod yn poeni am yr hyn sy’n digwydd i fyd natur.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi nodi pum blaenoriaeth ar gyfer ASau cyn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Byddwn hefyd yn gofyn i wleidyddion y Senedd gefnogi’r un ceisiadau yn etholiad Llywodraeth Cymru yn 2026.
Ers dros ddegawd, mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi ymgyrchu gyda sefydliadau amgylcheddol eraill yn y DU am gyfreithiau newydd i ddarparu gwell amddiffyniad i gynefinoedd morol a bywyd gwyllt. O ganlyniad, cyflwynwyd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (Deddf Forol) sy’n torri tir newydd ym mis Tachwedd 2009, gan roi’r offer sydd eu hangen ar Lywodraeth y DU i chwyldroi rheolaeth ein hamgylchedd morol. Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw am weithredu Deddf y Môr yn effeithiol yng Nghymru, a manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Ddeddf i sicrhau manteision gwirioneddol i fioamrywiaeth o amgylch arfordir Cymru.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn gweithio'n galed i amddiffyn natur yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Mae gennym dri amcan craidd: dangos sut mae natur yn gweithio, ysbrydoli pobl a chymunedau i weithredu dros natur ac i hyrwyddo natur a'n gwaith trwy eiriolaeth.