Addewid Dim Plaladdwyr!

Gardening with wildlife, snail on gardening gloves with pot plants behind

Tom Marshall

Addewid Dim Plaladdwyr!

Ymunwch â chymunedau ledled Cymru i addo atal y defnyddio o gemegau sy’n lladd ein bywyd gwyllt

Mae plaladdwyr neonicotinoid mor wenwynig, mae dim ond 1 llwy de yn ddigon i roi dos marwol i 1¼ BILIWN o wenyn mêl – digon o wenyn marw i lenwi 4 lori
Dave Goulson
Dead bumblebee

Yr Addewid

Trwy ychydig o newidiadau bach yn unig, gallwch ddod yn rhan o'r ateb i warchod ein bywyd gwyllt bach pwysig iawn! Mae gan ein haddewid isod tri cham; i roi’r gorau i ddefnyddio cemegau yn eich gardd i ladd pryfed, i beidio â defnyddio triniaethau spot-on neu chwain ar eich anifeiliaid anwes os oes perygl i’r cemegau hynny fynd i’r amgylchedd, a rhannu’r neges hon ymhell ac agos i helpu pawb i gymryd rhan.

Dysgwch fwy am niwed triniaethau chwain yma

 

Sefyll Dros Natur Addewidion atal plaladdwyr

Sefyll Dros Natur Addewidion atal plaladdwyr © Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Cymerwch ein haddewid a dod yn bencampwr pryfed! Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol mwy gwyllt am genedlaethau i ddod, gan sicrhau y gall pawb fwynhau'r natur yn eu bywydau. Mae un person yn llai sy'n defnyddio dim cemegau lladd pryfed yn eu bywydau yn cael effaith aruthrol ar ein bywyd gwyllt.

Ydych chi'n 12 oed neu'n iau?
Ystod Oedran
CAPTCHA
9 + 10 =
Solve this simple math problem and enter the result. E.g. for 1+3, enter 4.
This question is for testing whether or not you are a human visitor and to prevent automated spam submissions.

Byddwch yn sicr y byddwn yn diogelu eich data. Gallwch chi ddiweddaru eich dewis unrhyw bryd trwy gysylltu â ni. Bydd eich data yn cael ei drosglwyddo i Ymddiriedolaethau Natur eraill dim ond os ydych wedi ticio'r blwch i ganiatáu i ni wneud hynny. Ni fydd eich data byth yn cael ei werthu i unrhyw un arall. Os ydych chi eisiau darllen mwy am eich data a'ch hawliau gyda'r Ymddiriedolaethau Natur, gallwch ddod o hyd i'n fwy yma.