Cymryd rhan
Rydym yn ymgyrchu i weld dyfodol gwyllt, fel y gall pawb elwa o fywyd gwyllt a'i fwynhau. Mae gennym hanes hir o ymgyrchu dros newid cadarnhaol i natur a phobl, a gweithio gyda chymunedau lleol i achub llefydd arbennig ar gyfer bywyd gwyllt a helpu byd natur i adfer. Rydym eisiau gweld o leiaf 30% o’n tir a’n moroedd yn adfer erbyn 2030.
Mae angen newid!
Rydyn ni wedi dychmygu sut olwg fyddai ar The Wind in the Willows heddiw, ac nid yw’n stori hapus. Ond does dim rhaid bod fel hyn.Rydym yn galw am sefydlu Rhwydwaith Adfer Natur yn y gyfraith, lle mae bywyd gwyllt a llefydd gwyllt nid yn unig yn cael eu hamddiffyn ond hefyd yn cael eu hadfer a'u cysylltu. Mae David Attenborough yn esbonio isod sut y gallai hyn edrych.