Mae ein byd naturiol mewn trafferth
Nid yw hyn yn gyfrinach. Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus - mae rhai yn ei alw'n ddifodiant mawr nesaf - ac mae bygythiad newid hinsawdd yn bryderus cyson. Rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng.
Mae gobaith o hyd - gallwn fynd i'r afael â'r ddau fater hollbwysig hyn - ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr. Mae amser yn rhedeg allan.
Beth sydd angen digwydd?
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am o leiaf 30% o’n tir a’n môr gael eu cysylltu â’u hamddiffyn i adfer natur erbyn 2030. Drwy greu mwy o le i natur ffynnu unwaith eto, gallwn roi cyfle i fywyd gwyllt a lleoedd gwyllt prydferth adfer - lleoedd sy'n atafaelu carbon ac yn helpu i atal yr argyfwng hinsawdd.
30% yw’r lleiafswm prin sydd ei angen ar natur i ddechrau adfer ond rydyn ni yn llawer llai o hyn ac angen eich help chi i drawsnewid pethau...
Rhaid i’r deng mlynedd nesaf fod yn gyfnod o adnewyddiad, o ail-wylltio ein bywydau, o adferiad gwyrdd. Mae angen natur ar bob un ohonom yn fwy nag erioed a phan fyddwn yn llwyddo i gyrraedd 30 erbyn 30 bydd gennym dirweddau mwy gwyllt sy’n atafaelu carbon ac yn darparu natur i bobl hefyd. Gall pawb ein cefnogi a’n helpu i lwyddo.Prif Weithredwr Yr Ymddiriedolaethau Natur
Gallwn wneud hyn gyda'n gilydd
Drwy ymuno â ni i helpu adfer natur, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt a’n byd naturiol. Bydd pob punt a roddir yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwyllt. Gyda’n gilydd gallwn adfer mawnogydd enfawr, sy’n atafaelu carbon a dod yn gartref i adar sydd dan fygythiad fel y gylfinir. Byddwn yn creu gwlyptiroedd newydd, sy’n lleihau perygl gorlifo mewn trefi a
phentrefi ac hefyd yn bendigedig i weision neidr a llygoden bengron y dŵr. Byddwn yn plannu dolydd morwellt tanddwr newydd i amsugno carbon a chysgodi morfeirch a bywyd y môr eraill.
Mae natur wedi rhoi cymaint, ein tro ni bellach yw rhoi yn ôl.
Gall eich cefnogaeth mynd yn bell
Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur gynlluniau mawr i adfer natur. Dyma gip olwg ar rai o'n cynlluniau, y gobeithiwn eu gwireddu gyda'ch cefnogaeth chi...