Cyhoeddi Sir Benfro fel lleoliad newydd ar gyfer adfer coedwig law Atlantaidd

Cyhoeddi Sir Benfro fel lleoliad newydd ar gyfer adfer coedwig law Atlantaidd

Sarah Kessell

Bydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) yn dechrau adfer coedwig law Atlantaidd goll yn Sir Benfro diolch i bartneriaeth dymor hir gydag Aviva.

Heddiw, dydd Llun 15fed Gorffennaf, mae YNDGC yn datgelu cynlluniau i wella cynefinoedd ac ail-greu coedwig law dymherus yn Nhrellwyn Fach ger arfordir Sir Benfro. Roedd coedwigoedd glaw yn arfer gorchuddio llawer o arfordir gorllewinol Prydain ond maent wedi cael eu dinistrio dros gannoedd o flynyddoedd a heddiw dim ond darnau sydd ar ôl.

Mae adfer coedwigoedd glaw yn rhan o raglen ehangach o brosiectau sy’n seiliedig ar natur i gael gwared ar garbon o’r atmosffer a helpu byd natur i adfer, sy’n cael ei chyllido gan rodd gan Aviva. Bydd cymunedau yn Sir Benfro yn ymwneud yn agos â'r prosiect, gyda chynlluniau ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli, addysgiadol a chyflogaeth, yn ogystal â gwell mynediad i fyd natur.

Mae’r prosiect yn Nhrellwyn Fach yn rhan o raglen adfer coedwigoedd glaw Atlantaidd yr Ymddiriedolaethau Natur, sy’n cael ei chefnogi gan rodd o £38 miliwn gan Aviva.

Mae rhodd Aviva yn cefnogi’r rhaglen i adfer coedwigoedd glaw tymherus mewn ardaloedd ble roeddent yn arfer tyfu ar hyd hinsoddau gorllewinol, llaith Ynysoedd Prydain. Mae prosiectau adfer coedwigoedd glaw eraill wedi’u cyhoeddi yn Nyfnaint a Gogledd Cymru ac ar Ynys Manaw.

Dywedodd Sarah Kessell, Prif Weithredwr YNDGC,Rydyn ni wrth ein bodd bod posib i’r prosiect adfer coedwig law yn Nhrellwyn Fach ddechrau. Mae’r safle yma mewn lleoliad delfrydol yng Nghwm Gwaun, sydd eisoes wedi’i gysylltu â gweddillion coedwig law Geltaidd ac yn rhoi cyfle i ni glustogi ac ymestyn y cynefin rhyfeddol yma yn ogystal â gwella mynediad i’r gymuned leol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous!

Dywedodd Leah Ramoutar, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Amgylcheddol gydag Aviva,Rydyn ni’n falch o weld yr Ymddiriedolaeth Natur yn ychwanegu safle arall at y prosiect adfer coedwig law, gan helpu Cymru i fod yn barotach ar gyfer yr hinsawdd. Bydd y safle yn Nhrellwyn Fach yn cysylltu ag enghreifftiau presennol o’r cynefin gwerthfawr yma, gan ailsefydlu coridorau naturiol er budd bywyd gwyllt ac ychwanegu mwy o harddwch naturiol at y rhan syfrdanol hon o Gymru. Bydd hefyd yn darparu gwytnwch rhag llifogydd i gartrefi a busnesau cyfagos yn ogystal â swyddi gwyrdd a chyfleoedd gwirfoddoli i’r gymuned leol.

Sarah Kessell

Sarah Kessell

Mae Trellwyn Fach yn 146 o erwau, drws nesaf i bentref Llanychaer, a dim ond 2 filltir o Abergwaun. Mae pen deheuol y safle’n cysylltu â choetir Cwm Gwaun, safle sy’n weddillion coedwig law Geltaidd hefyd. Mae'r pen gogleddol yn rhedeg i rostir agored ar fynydd Dinas. O dop y safle mae golygfeydd o Fynyddoedd y Preseli. Ychydig iawn o amrywiaeth sydd ar y mwyafrif o’r tir gyda bron pob cae yn laswelltir rhyg wedi’i led-wella a oedd yn cael ei bori gan ddefaid, ond mae rhai mannau gwlypach a rhai gwrychoedd hyfryd, aeddfed o ddrain duon, drain gwynion, cyll, derw, eithin a chelyn. Yn gyffredinol, mae'r potensial i wella’r cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt yn uchel.

Mae YNDGC yn bwriadu gwella gwerth bywyd gwyllt y warchodfa natur newydd drwy bori dwysedd isel mewn rhai ardaloedd, gan weithio gyda phorwyr lleol. Bydd tîm cadwraeth yr Ymddiriedolaeth yn monitro’r newidiadau mewn bioamrywiaeth drwy arolygon cynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys arolygon o adar yn magu a thrawsluniau glöynnod byw.

Bydd tua dwy ran o dair o'r safle’n dod yn goetir llydanddail drwy blannu ac adfywio naturiol, i glustogi'r coetir presennol ac i gefnogi cysylltedd ehangach y goedwig law Geltaidd sy'n weddill yn y dirwedd. Mae'r coridor coetir hwn yn arwain mewn bwa drwy Gwm Gwaun, i Goedwig Pengelli (gwarchodfa natur YNDGC) a bydd y cynlluniau diweddaraf yn cyfrannu'n fawr at gynyddu arwynebedd y goedwig law dymherus yng ngogledd Sir Benfro. Mae hyn yn ategu gwaith diweddar a wnaed gan brosiect ‘Creu Gwell Cysylltiadau’ Cwm Arian sydd wedi ymgysylltu â pherchnogion tir preifat yn yr un ardal i blannu tir a / neu wrychoedd i gysylltu cynefinoedd coetir yng ngogledd Sir Benfro.

Mae llwybr marchogaeth yn rhedeg ar draws rhan isaf y safle ac mae lle i gysylltu llwybrau cerdded i fyny i fynydd Dinas i wella’r llwybrau cerdded o Lanychaer. Mae cyfleoedd gwych i gynnwys cymunedau lleol wrth ddatblygu a monitro’r warchodfa natur newydd hon.