Mae adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru yn canfod, er gwaethaf eu rôl hollbwysig mewn lliniaru hinsawdd a gwydnwch ecolegol, bod y mwyafrif helaeth o gynefin coedwig law Cymru mewn cyflwr ‘anffafriol’, gyda llawer o safleoedd yn dioddef o fygythiadau cyfansawdd lluosog. O ganlyniad, mae’r Cynghrair yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cadwraeth ar unwaith i warchod yr ecosystemau unigryw hyn.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gyfoeth ecolegol coedwigoedd glaw Cymru, sy’n gartref i dros 400 o rywogaethau prin o fwsoglau, llysiau’r afu, cennau, ac adar ac ystlumod arbenigol. Mae'r cynefinoedd hyn yn amhrisiadwy nid yn unig fel lleoliad â chyfoeth o ran bioamrywiaeth, ond hefyd fel dalfeydd carbon naturiol a gosodwyr nitrogen.
Canfyddiadau allweddol Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru:
- Diraddio Ecosystemau: Dim ond 22% o'r safleoedd coedwigoedd glaw a arolygwyd sydd mewn cyflwr "da", ac nid oes yr un ohonynt wedi'u graddio'n "dda iawn". Mae rhywogaethau ymledol fel Rhododendron ac iorwg yn bresennol mewn 70% o'r safleoedd a arolygwyd, gyda llawer o safleoedd hefyd yn dioddef o bori ansensitif ymledol a llygredd aer.
- Rhywogaethau a Chynefinoedd o Dan Fygythiad: Mae dros 536 o rywogaethau o gennau’n dibynnu ar goed Ynn, sydd bellach dan fygythiad gan Glefyd yr Ynn, ac mae bron i 20% o fwsoglau a llysiau’r afu’r DU hefyd mewn perygl yn y cynefinoedd hyn.
- Ymdrechion Cadwraeth Darniog: Dim ond 12% o goedwigoedd glaw tymherus Cymru sydd wedi’u diogelu’n gyfreithiol. Mae rhwydwaith cryfach o safleoedd gwarchodedig yn hanfodol i gyrraedd nod Cymru o ddiogelu 30% o’i thir ar gyfer byd natur erbyn 2030.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu cynllun gweithredu manwl, gan bwysleisio’r angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym ac yn bendant i ddiogelu ac adfer y cynefinoedd hyn o arwyddocâd rhyngwladol.
- Mwy o Ddiogelwch ac Adfer: Ehangu amddiffyniadau cyfreithiol a blaenoriaethu gwaith adfer mewn ardaloedd cysylltedd uchel i greu rhwydweithiau coedwig law gwydn.
- Rheolaeth Well: Gweithredu pori cadwraethol a strategaethau rheoli gweithredol eraill i gynnal strwythurau coedwig iach, lleihau gorlenwi canopi, a chefnogi adfywio naturiol.
- Rheoli Rhywogaethau Ymledol: Rheoli rhywogaethau ymledol anfrodorol a brodorol ar fyrder i wella ansawdd cynefinoedd.
- Buddsoddi mewn Ymchwil: Gwella ymchwil ar rôl coedwigoedd glaw mewn storio carbon, gwytnwch ecosystemau, ac effeithiau llygredd.
Mae’r Cynghrair sydd newydd ei ffurfio yn gydweithrediad rhwng sefydliadau sydd wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol cadarnhaol i gynefinoedd coedwigoedd glaw tymherus a’u rhywogaethau cysylltiedig yng Nghymru a’r DU; Ymddiriedolaeth Natur Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Coed Cadw, RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Plantlife.
Trwy gydweithio, eu nod yw tynnu sylw at arwyddocâd ecolegol, amgylcheddol a diwylliannol coedwigoedd glaw Cymru, a hyrwyddo eu rheolaeth, eu gwarchod a’u ehangu yn gadarnhaol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynlluniau fel Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE, wedi cymryd camau uniongyrchol yn erbyn rhai o’r prif fygythiadau sy’n wynebu coedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru; mae’r gwaith pwysig hwn nid yn unig yn gwella gwytnwch safleoedd coedwigoedd glaw tymherus yn y dyfodol, ond gellir ei ddefnyddio hefyd i hysbysu ac ysbrydoli eraill i weithredu.
Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru yw allbwn mawr cyntaf y Gynghrair. Mae’n sefydlu gwaelodlin ecolegol ar gyfer cyflwr coedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru, gan dynnu sylw at y bygythiadau lluosog y mae’r cynefinoedd hyn yn eu hwynebu, ac amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i’w hadfer a chreu tirwedd fforest law iachach, wedi’i chysylltu’n well ac yn fwy gwydn.
Dywedodd Kylie Jones Mattock, Cyfarwyddwr Dros Dro Coed Cadw, “Mae’r adroddiad hwn yn gam hollbwysig i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru, gan danlinellu pwysigrwydd cadwraeth coedwig law ragweithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd sylw, a gweithredu nawr tra bod gennym amser o hyd i warchod ac adfer y cynefinoedd annatod hyn.”
Tri phrif ofyniad y Gynghrair i Lywodraeth Cymru:
1. Cydnabod pwysigrwydd coedwigoedd glaw tymherus Cymru.
2. Sicrhau bod adfer coedwigoedd glaw tymherus yn cael ei flaenoriaethu/mynd i'r afael â hi trwy bolisi a deddfwriaeth megis cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Sicrhau bod gwell dealltwriaeth o statws presennol coedwigoedd glaw tymherus gyda bygythiadau wedi'u nodi a chamau y cytunwyd arnynt i fynd i'r afael â hwy.
Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Natur Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â choedwigoedd glaw trofannol, ond gall coedwigoedd glaw tymherus hefyd dyfu yma yng Nghymru – ond mae eu maint a’u hystod wedi lleihau’n ddifrifol ledled Cymru yn y blynyddoedd diwethaf ac maent yn wynebu llawer o fygythiadau gan gynnwys rhywogaethau ymledol, llygredd aer a gorbori. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd y coedwigoedd hyn sydd mewn perygl difrifol a rhoi blaenoriaeth i’w diogelu a’u hadfer. Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau nad ydym yn colli ein coedwigoedd glaw.”
Dywedodd Adam Thorogood, Rheolwr Rhaglen Coedwigoedd Glaw, Plantlife,: “Mae’r adroddiad pwysig hwn yn dangos gwerth aruthrol a bregusrwydd eithafol coedwigoedd glaw tymherus Cymru, cynefin sy’n gartref i gymunedau amrywiol o gennau, mwsoglau a llysiau’r afu sy’n brin yn fyd-eang a’r cyfoeth o fywyd gwyllt y maent yn ei gynnal. Mae hwn yn alwad eglur ar y cyd am well amddiffyniad a rheolaeth briodol ar y coedwigoedd glaw sy’n weddill, a hyrwyddo cynlluniau i ymestyn y parth coedwigoedd glaw, y mae’n rhaid eu clywed a gweithredu arnynt os ydym am atal dirywiad syfrdanol natur, a brwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.”
“Mae coedwigoedd glaw gwlyb a gwyllt Cymru yn drysorfa o fryoffytau (mwsoglau a llysiau’r afu) gyda rhai o’r safleoedd cyfoethocaf yn darparu harbwr diogel i hyd at 20% o rywogaethau Prydain. Mae’r gostyngiad yn y dosbarthiad o 44% o fryoffytau ledled Cymru ers dim ond 1970 yn dod a ffocws clir pa mor arbennig yw’r cynefinoedd prin hyn sydd dan fygythiad, a’r angen i weithredu’n gyflym i atal y colledion hyn.”
Ychwanegodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaethyddiaeth o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, “Mae’r coedwigoedd glaw tymherus hyn yn rhan annatod o ecosystemau a nodweddion arbennig Eryri, yn rhan werthfawr iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol a naturiol, ac mae’n hanfodol bod yr hyn sy’n weddill yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy brosiect LIFE y Goedwig Law Geltaidd, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol yn erbyn rhai o’r prif fygythiadau i’n safleoedd coedwigoedd glaw mwyaf gwerthfawr ledled Cymru, ac wrth wneud hynny’n darparu astudiaethau achos dangosol o arferion rheoli da, a darparu llwyfan ar gyfer Cynghrair Coedwigoed GlawCymru sydd newydd ei ffurfio i adeiladu arnynt.”
Dywedodd Neil Lambert, Pennaeth Tir o RSPB Cymru: “Rydym yn falch o fod yn rhan o Gynghrair dros Coedwigoedd Glaw Cymru i warchod un o’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr ac unigryw yng Nghymru. Mae coedwigoedd glaw tymherus Cymru yn wirioneddol unigryw, ond mae’n gynefin sydd hefyd yn hynod fregus ac mewn perygl. Bydd y Gynghrair hon yn defnyddio ei llais cyfunol i alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei hymrwymiad i ddiogelu ac adfer y cynefin unigryw hwn.”
Dywedodd Lauri MacLean, Cynghorydd Cadwraeth Natur o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae Cymru yn gartref i un o gynefinoedd prinnaf y byd, y goedwig law dymherus, ond dim ond 22% o’r safleoedd gwerthfawr hyn ledled Cymru sydd mewn cyflwr da. Mae’r tirweddau anhygoel hyn yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol a gallant chwarae rhan hollbwysig yn ein brwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Dyna pam mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn rhan o’r Gynghrair dros Coedwigoedd Glaw Cymru yn galw am fwy o weithredu i warchod ac adfer cynefinoedd coedwig law er budd natur, hinsawdd a chenedlaethau’r dyfodol.”
I ddarganfod mwy a darllen yr Adroddiad ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru yn llawn, ewch i:
https://celticrainforests.wales/the-state-of-wales-rainforests-report
https://coedwigoeddglawceltaidd.cymru/adroddiad-ar-gyflwr-coedwigoedd-glaw-cymru