Dirgelion mamaliaid

Dirgelion mamaliaid

© Philip Precey

Ydych chi wedi gweld unrhyw olion traed dirgel neu faw anesboniadwy? Ewch ati i ddatrys y mater gyda rhai awgrymiadau gan Darren Tansley, y Ditectif Mamaliaid.

Mae mamaliaid o'n cwmpas ni ym mhob man, o lygod a llygod pengrwn i foch daear a llwynogod. Maen nhw yn ein gwarchodfeydd natur ni, ac yn ein parciau a’n gerddi ni hefyd. Ond pa mor aml ydych chi'n eu gweld nhw? Mae’r rhan fwyaf o famaliaid yn hoffi aros yn gudd, ac maen nhw’n dda iawn am wneud hynny! Mae'n well gan lawer ohonyn nhw ddod allan yn y nos pan maen nhw’n cael eu gwarchod gan y tywyllwch.

Mae rhai arwyddion yn amlwg, fel pentyrrau o faw wedi'u gadael mewn mannau amlwg, ac eraill yn fwy cynnil, fel moch coed wedi'u cnoi wrth fôn coed. Ymhlith y pethau mwyaf cyffrous i'w darganfod mae olion traed anifeiliaid. Y lle gorau i chwilio am olion traed yw mewn pridd meddal neu fwd, yn enwedig ar ôl glaw. Os yw wedi bod yn bwrw eira, mae posib gweld olion traed yn unrhyw le bron.

Beth am i ni edrych ar rai o'r olion traed y gallech chi ddod o hyd iddyn nhw…

Cathod a chŵn

Mae miliynau o gathod a chŵn yn y DU, felly mae digon o olion traed anifeiliaid anwes o gwmpas y lle, yn enwedig mewn llecynnau poblogaidd i fynd â chŵn am dro. Mae gallu dweud y gwahaniaeth rhyngthyn nhw a’r olion traed sy’n cael eu gadael gan anifeiliaid gwyllt yn angenrheidiol wrth chwarae ditectif. Gan fod cŵn yn dod mewn cymaint o feintiau, mae olion eu traed yn gallu bod yn amrywiol iawn, er eu bod nhw tua 3 i 5cm o led yn aml. Mae ganddyn nhw bedwar o fysedd traed gyda marciau crafanc mawr o flaen bysedd eu traed. Yn gyffredinol mae olion traed cathod yn 2 i 3cm o led ac, oherwydd bod cathod yn tynnu eu crafangau i mewn wrth gerdded, does ganddyn nhw ddim olion crafanc o gwbl. Nodwedd allweddol arall sy'n eu gwneud nhw’n wahanol i olion traed cŵn ydi bod un bys canol bob amser yn hirach na'r llall.

Dog prints

Dog prints © Darren Tansley

Llwynogod

Mae llwynogod yn gefndryd gwyllt i gŵn, felly mae gan eu holion traed bedwar o fysedd traed hefyd, ond mae ôl y droed yn siâp diemwnt taclus. Mae pad troed trionglog gyda phedwar o fysedd traed o amgylch yr ochrau a’r blaen, gyda dau grafanc taclus yn ffurfio pwynt yn y blaen. Mae eu baw yn debyg i un ci hefyd, yn bigfain ar un pen fel arfer, ac yn llawn ffwr, plu, esgyrn mân, hadau ac aeron. Mae gan unrhyw faw ffres arogl cryf iawn a mwsgaidd.

Fox print

Fox print © Darren Tansley

Moch Daear

Mae traed mochyn daear mor fawr â rhai ci canolig ond mae ganddyn nhw bump o fysedd traed yn lle pedwar. Mae eu holion traed yn dangos pad troed llydan, sgwaraidd gyda phump o fysedd traed o'i flaen. Mae gan fysedd y traed grafangau hir ar gyfer cloddio. Mae moch daear yn dilyn yr un llwybrau pan fyddant yn chwilio am fwyd, ac felly’n gadael llwybrau amlwg lle maen nhw’n chwilio am fwyd. Chwiliwch am lwybrau syth ar draws caeau neu’n dod allan o goedwigoedd, gwrychoedd neu ar hyd ffensys. Maen nhw'n gwneud pŵ mewn pyllau bas o’r enw geudai, ac mae eu baw yn amrywio o gadarn a siâp selsig, i feddal a llysnafeddog.

Badger prints in mud the wildlife trusts

© Philip Precey

Ceirw

Mae gennym ni sawl rhywogaeth o garw, o geirw mwntjac maint ci i geirw coch maint ceffyl. Ond mae eu holion traed yr un siâp yn fras, ond bod y meintiau'n wahanol. Mae olion traed ceirw mwntjac tua 3cm o hyd, ond mae olion traed ceirw coch hyd at 9cm o hyd. Mae ceirw'n cerdded ar flaenau eu traed mewn gwirionedd, felly dim ond dau flaen troed pigfain, hir fyddwch chi'n eu gweld ochr yn ochr, heb grafangau na phadiau troed. Mae rhai rhywogaethau'n byw mewn heidiau ac yn creu llwybrau mwdlyd mawr gyda dwsinau o olion traed. Chwiliwch am olion sy'n croesi nentydd, llwybrau troed a ffosydd, neu lwybrau wedi'u sathru'n drwm iawn drwy goetiroedd. Mae baw ceirw yn belenni tywyll llyfn, sgleiniog sy'n bigfain yn un pen ac yn aml wedi glynu yn ei gilydd mewn clystyrau.

Red deer and muntjac slots

Red deer and muntjac slots © Darren Tansley

Cwningod

Siâp hirgrwn yw olion traed cwningod. Ni fyddwch yn sylwi ar farciau pawennau ar wahân, ond mae'r pedair troed wedi'u trefnu mewn triongl wrth iddyn nhw sboncio hyd y lle. Yn aml mae’n haws dod o hyd i gwningod drwy chwilio am y baw sydd fel peledi bach maen nhw’n ei adael ar lawntiau a chaeau lle maen nhw wedi bod yn bwydo.

Rabbit tracks

Rabbit tracks © Darren Tansley

Llygod mawr

Mae gan lygod mawr olion bysedd traed siâp seren ar y traed blaen a thraed cefn hir. Mae llygod mawr yn debyg o ran maint i foch cwta, felly dim ond 1.5 i 2cm o hyd yw olion eu traed. Gellir dod o hyd iddyn nhw yn aml ar hyd ffosydd, nentydd ac ymylon afonydd - cyn belled â bod bwyd a rhywle i gloddio! Mae baw llygod mawr yn fflat yn un pen ac yn bigfain yn y pen arall, yn frown golau i ddu, yn llysnafeddog ac yn feddal, ac yn arogli'n annymunol fel pi-pi. Mae eu baw yn gallu bod yn niweidiol i bobl, felly fe ddylech chi osgoi ei gyffwrdd.

Rat tracks

Rat tracks (c) Darren Tansley

Dyfrgwn

Mae dyfrgwn yn treulio llawer o’u hamser mewn afonydd, felly rydych chi’n fwyaf tebygol o ddod o hyd i olion eu traed ar hyd glannau mwdlyd yn dod allan o’r dŵr, neu ar dywod a llifwaddod o dan bontydd. Mae ganddyn nhw bump o fysedd traed siâp deigryn o amgylch pad mawr, ond mae un bys ar un ochr fel arfer - fel petaech chi'n estyn eich llaw allan yn llydan ac yn edrych ar eich bawd. Bydd dyfrgwn yn aml yn gadael baw mewn mannau amlwg ar hyd afonydd, fel ar greigiau neu o dan bontydd, i farcio eu tiriogaeth. Mae’r baw yn edrych yn grensiog, wedi'i lenwi â chennau pysgod ac esgyrn pysgod bach, a phan mae’n ffres mae’n arogli fel te jasmin.

Otter print

Otter print © Darren Tansley