Os rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i addo i beidio defnyddio plaladdwyr yn ein bywydau, gallem ddileu presenoldeb cemegau sy’n lladd bywyd gwyllt yn ein hafonydd.
Sut i fynd yn rhydd o blaladdwyr
Efallai eich bod yn pendroni ble i ddechrau gyda chael gwared ar blaladdwyr gartref, ond peidiwch â phoeni! Rydym wedi casglu rhai adnoddau isod at ei gilydd i chi eu harchwilio yn llawn awgrymiadau a thriciau ar sut y gallwch chi gael gwared a phlaladdwyr yn eich tŷ chi!
Beth sy'n digwydd o gwmpas y DU?
Er ei bod yn hysbys ers degawdau bod plaladdwyr yn effeithio ar fwy o fywyd gwyllt na’r rhywogaethau y maent yn eu targedu yn unig, mae digonedd o gemegau o hyd ar gael i’r cyhoedd, Awdurdodau Lleol, a thirfeddianwyr sy’n cael canlyniadau dwys yn ein hardaloedd naturiol. O hadau wedi'u gorchuddio â Neonicitinoidau sydd â'r gallu i ladd biliynau o wenyn, i Glyffosad y canfuwyd ei fod yn garsinogenig 'yn ôl pob tebyg' gan yr International Agency for Research on Cancer (IARC), ac ymlaen i driniaethau yn y fan a'r lle sy'n cael eu golchi oddi ar anifeiliaid anwes i mewn i nentydd ac afonydd â chanlyniadau trychinebus, mae argaeledd cemegau a all niweidio bywyd gwyllt yn ddifrifol a ninnau yn syfrdanol.
Isod gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Neonicotinoidau yn Lloegr, sut y gall Awdurdodau Lleol fod o gymorth mawr i atal yr apocalyps pryfed, a sut y gallwch chi lawr lwytho eich canllaw rhad ac am ddim eich hun i amddiffyn pryfed gartref.
Gweledigaeth ar gyfer Cymru'r dyfodol
Roedd cyfranogwyr y prosiect Sefyll Dros Natur ledled Cymru yn cydnabod pwysigrwydd COP15 yn ôl yn 2022, a’r angen i sicrhau bod natur yn cael ei chynrychioli ym Montreal gan leisiau ifanc. Daethant ynghyd i greu eu maniffesto ar gyfer natur a bywyd gwyllt o amgylch y byd, gan greu 6 cais am y blaned a 6 yn gofyn i Gymru ddiogelu ein rhywogaeth am genedlaethau i ddod. Cymerwch olwg ar yr hyn a grëwyd ganddynt isod, a gadewch i'w hysbrydoliaeth eich ysbrydoli!
Maniffesto Ieuenctid ar gyfer COP15
Lawr lwythwch eich copi o'r maniffesto ieuenctid a ysbrydolodd yr ymgyrch hon yma