Sefyll Dros Natur Cymru

Stand for Nature Wales

Prosiect newid yn yr hinsawdd i ieuenctid Cymru gyfan gydag uchelgais mawr!

Mae'r chwe Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gyda help pobl ifanc Cymru. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a bywyd gwyllt yn eu hardal leol mewn ymgais i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. O Gaerdydd drefol i sir Drefaldwyn wledig, mae pobl ifanc yn sefyll dros natur a'u dyfodol. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn gwneud safiad.

Maen nhw’n brwydro dros ein moroedd glas hardd, ein coetiroedd gwyrdd hyfryd, a'n bywyd gwyllt gwerthfawr.

A wnewch chi ymuno â nhw?

 

 

Hedgehog in a watering can

Tom Marshall

Pam nawr?

Mae’n bwysicach nag erioed gweithredu dros natur. Ar hyn o bryd rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur, gydag 17% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant. Ond gallwn newid hyn. Drwy sicrhau adferiad natur, gallwn a byddwn yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gall cynefinoedd sy’n ffynnu gloi llawer iawn o garbon yn ddiogel, a darparu manteision hanfodol eraill sy'n ein helpu i addasu, fel atal llifogydd, dŵr glân a gwella iechyd a lles.

Mae byd natur yn wynebu anawsterau; nid yw hynny’n gyfrinach. Ond mae gobaith o hyd! Mae prosiectau fel Sefyll dros Natur Cymru yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i genedlaethau'r dyfodol ac, yn bwysicach, yr angerdd i sefyll dros natur. Rydw i'n hynod falch o weld y prosiect anhygoel yma’n cael ei lansio heddiw ac rydw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd pobl ifanc Cymru yn ei gyflawni!
Hannah Stitfall
Cyflwynydd y BBC

Cymerwch ran yn eich ardal leol

Mae gennym ni staff ledled Cymru, cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth Natur leol i weithredu dros yr hinsawdd yn eich ardal chi!

Stand for Nature Wales Staff Team!

©Stand for Nature Wales

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:

Cysylltwch â Laura yn Ceredigion

Cysylltwch â Meg yng Nghaerdydd

Darganfyddwch fwy ar wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

People sat on a beach in a circle whilst smiling at the camera

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:

Cysylltwch a Petra yng Nghasnewydd

Cysylltwch a Rob yn Ebbw Vale

Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Listen to Petra and her youth group talk about Stand for Nature Wales!

CREDIT - Stand for Nature Wales

Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed

Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:

Cysylltwch Silvia yn Sir Faesyfed

Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.

A woman wearing a Stand for Nature Wales branded tshirt with her back to the camera. There are children and adults doing crafts in the background.

Nature crafts at Gilfach Nature Reserve

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:

Cysylltwch Dan yn Maldwyn

Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.

Photo of 7 young people stood outdoors in wellies
Fe wnes i ymuno â'r prosiect yma oherwydd dylai newid yn yr hinsawdd fod yn flaenllaw ym meddwl pawb ac rydw i’n teimlo y gall y prosiect yma, ynghyd ag eraill, alluogi i hynny ddod yn realiti os bydd digon o bobl yn ymuno â'r achos. Mae'n ddechrau rhywbeth a all ddatblygu i fod yn gyfranogiad ledled y wlad.
Rowan, 17 mlwydd oed

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth gan brosiect ieuenctid anhygoel Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru Ein Glannau Gwyllt

Our Wild Coast was a pioneering youth environmental project delivered by NWWT between July 2016 - March 2021. Here the Trust's youth team look back on an incredible five years of wild adventures and outline their hopes for the future.

National Lottery Community Fund Logo