
Mae’n amser cynllunio eich anturiaethau gwyllt
Rydyn ni'n gyffrous iawn eich bod chi'n treulio mis Mehefin yn mynd yn WYLLT gyda ni!
I’ch helpu chi i gynllunio eich her 30 Diwrnod Gwyllt a dod yn nes at natur, rydyn ni wedi creu llawer o adnoddau defnyddiol i chi.
Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni
Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni
Ddim yn siŵr ble i ddechrau eich antur 30 Diwrnod Gwyllt? Dyma rai awgrymiadau syml i roi cynnig arnyn nhw. Dim ond ychydig funudau maen nhw i gyd yn eu cymryd ond byddan nhw'n eich helpu chi i gysylltu â byd natur!
- Cerdded yn droednoeth ar y glaswellt a chanolbwyntio ar sut mae'r glaswellt yn teimlo o dan eich traed
- Cofleidio coeden
- Gwrando ar gân yr adar
- Arogli blodyn
- Gwylio cacynen yn teithio o flodyn i flodyn
- Yfed eich paned bore tu allan, gan fwynhau'r awyr iach
- Treulio pum munud yn gwylio'r cymylau. Allwch chi weld unrhyw siapiau ynddyn nhw?
- Plannu hadau sy'n gyfeillgar i bryfed peillio
- Rhoi cynnig ar bioblitz pum munud yn eich gardd neu barc lleol. Faint o bryfed allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?
- Tynnu llun o fyd natur. Bydd yn eich annog chi i edrych yn fanylach!
Cael mynediad at adnoddau digidol gwych
Barod i fynd amdani gyda 30 Diwrnod Gwyllt? Fe all y canllawiau gweithgarwch a'r adnoddau yma roi lle i chi ddechrau!
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - mwen lliw
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - graddlwyd
Sut i greu gardd bywyd gwyllt mewn cynhwysydd
Sut i greu priffordd draenogod
Sut i helpu bywyd gwyllt yn y gwaith
Ein themâu wythnosol
Gallwch ddefnyddio ein themâu wythnosol i helpu i gynllunio eich mis o anturiaethau gwyllt. Dim ond awgrymiadau yw’r rhain, felly mae croeso i chi fod yn wyll mewn ffordd sy’n addas i chi yn ystod y mis. Gallai hynny fod yn weithgaredd y dydd, neu un yr wythnos; gallai olygu symud drwy'r themâu wythnosol neu gadw at un yn unig. Chi sydd i benderfynu!
I’ch helpu chi drwy eich her, byddwn yn anfon e-byst dyddiol atoch chi yn llawn gwybodaeth a gweithgareddau, felly os ydych chi’n brin o ysbrydoliaeth, cadwch lygad am y rhain!
Cadwch lygad oherwydd byddwn yn ychwanegu tudalennau gwe arbennig i'ch helpu chi i gynllunio eich gweithgareddau wythnosol.
Wythnos un: Helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw
Rhoi cychwyn i 30 Diwrnod Gwyllt drwy ddewis gweithgareddau sy'n helpu bywyd gwyllt.
Wythnos dau: Symud fel bywyd gwyllt
Codi allan i fyd natur ac archwilio llefydd newydd, neu roi cynnig ar ymarferion a gweithgareddau sydd wedi'u hysbrydoli gan fywyd gwyllt!
Wythnos tri: Dysgu am fywyd gwyllt
Yr wythnos yma ewch ati i loywi eich gwybodaeth am fywyd gwyllt a’ch sgiliau adnabod! Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Wythnos pedwar: Bod yn greadigol gyda byd natur
Ar gyfer wythnos olaf 30 Diwrnod Gwyllt, ysgrifennwch stori natur, gwneud celf natur neu baentio llun bywyd gwyllt!