Croeso i 30 Diwrnod Gwyllt!

Amdani 30 Diwrnod Wyllt

Mae’n amser cynllunio eich anturiaethau gwyllt

Rydyn ni'n gyffrous iawn eich bod chi'n treulio mis Mehefin yn mynd yn WYLLT gyda ni!

I’ch helpu chi i gynllunio eich her 30 Diwrnod Gwyllt a dod yn nes at natur, rydyn ni wedi creu llawer o adnoddau defnyddiol i chi.

Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni

Cael mynediad at adnoddau digidol gwych

Ein themâu wythnosol

#simple-activities

Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni  

Ddim yn siŵr ble i ddechrau eich antur 30 Diwrnod Gwyllt? Dyma rai awgrymiadau syml i roi cynnig arnyn nhw. Dim ond ychydig funudau maen nhw i gyd yn eu cymryd ond byddan nhw'n eich helpu chi i gysylltu â byd natur!

  1. Cerdded yn droednoeth ar y glaswellt a chanolbwyntio ar sut mae'r glaswellt yn teimlo o dan eich traed
  2. Cofleidio coeden
  3. Gwrando ar gân yr adar
  4. Arogli blodyn
  5. Gwylio cacynen yn teithio o flodyn i flodyn
  6. Yfed eich paned bore tu allan, gan fwynhau'r awyr iach
  7. Treulio pum munud yn gwylio'r cymylau. Allwch chi weld unrhyw siapiau ynddyn nhw?
  8. Plannu hadau sy'n gyfeillgar i bryfed peillio
  9. Rhoi cynnig ar bioblitz pum munud yn eich gardd neu barc lleol. Faint o bryfed allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?
  10. Tynnu llun o fyd natur. Bydd yn eich annog chi i edrych yn fanylach!

 

#downloads
#weekly-themes

Ein themâu wythnosol

Gallwch ddefnyddio ein themâu wythnosol i helpu i gynllunio eich mis o anturiaethau gwyllt. Dim ond awgrymiadau yw’r rhain, felly mae croeso i chi fod yn wyll mewn ffordd sy’n addas i chi yn ystod y mis. Gallai hynny fod yn weithgaredd y dydd, neu un yr wythnos; gallai olygu symud drwy'r themâu wythnosol neu gadw at un yn unig. Chi sydd i benderfynu!

I’ch helpu chi drwy eich her, byddwn yn anfon e-byst dyddiol atoch chi yn llawn gwybodaeth a gweithgareddau, felly os ydych chi’n brin o ysbrydoliaeth, cadwch lygad am y rhain!

Cadwch lygad oherwydd byddwn yn ychwanegu tudalennau gwe arbennig i'ch helpu chi i gynllunio eich gweithgareddau wythnosol.

Wythnos un: Helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw

Rhoi cychwyn i 30 Diwrnod Gwyllt drwy ddewis gweithgareddau sy'n helpu bywyd gwyllt.

Wythnos dau: Symud fel bywyd gwyllt

Codi allan i fyd natur ac archwilio llefydd newydd, neu roi cynnig ar ymarferion a gweithgareddau sydd wedi'u hysbrydoli gan fywyd gwyllt!

Wythnos tri: Dysgu am fywyd gwyllt

Yr wythnos yma ewch ati i loywi eich gwybodaeth am fywyd gwyllt a’ch sgiliau adnabod! Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Wythnos pedwar: Bod yn greadigol gyda byd natur

Ar gyfer wythnos olaf 30 Diwrnod Gwyllt, ysgrifennwch stori natur, gwneud celf natur neu baentio llun bywyd gwyllt!