Yn COP15 ym mis Rhagfyr 2022, ymrwymodd 196 o wledydd i gytundeb i amddiffyn natur, gan gytuno ar dargedau sy'n amddiffyn, adfer ac adfywio ein hamgylchedd. Daeth y cyfarfod rhyngwladol hwn gydag ymrwymiad i amddiffyn a rheoli 30% o dir a môr yn effeithiol erbyn 2030, neu 30 erbyn 30. Yn ogystal â llofnodi’r addewidion hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i leihau’r risg o blaladdwyr a llygredd nitrad 50% erbyn 2030, sef cytundeb COP15 arall.
Llwybrau i 2030 – Mae adroddiad hollbwysig yn cael ei lansio heddiw ar gyfer ein dyfodol.
Er y cytunwyd yn rhyngwladol, cyfrifoldeb pob gwlad yw gweithredu ar yr addewidion hyn, ac felly mae’r adroddiad hwn sy’n cael ei lansio heddiw yn nodi’r 10 maes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi ar gyfer adferiad natur yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi costau blynyddol i ATAL gweithgareddau sy'n niweidiol i natur, LLEIHAU effeithiau andwyol ar natur, a DECHRAU cymryd camau cadarnhaol ar gyfer adferiad natur.
Mae’r themâu a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys mynediad a chyfranogiad y cyhoedd, ffermio, arfordir, moroedd, mawn, glaswelltiroedd, safleoedd gwarchodedig, afonydd a gwlyptiroedd, coetiroedd, a rhywogaethau. Mae pob thema yn nodi ymyriadau allweddol a faint o fuddsoddiad blynyddol sydd ei angen tuag at y thema honno rhwng nawr a 2030. Gyda’r costau clir hyn yn eu lle, gall llunwyr polisi, gwleidyddion, ac unrhyw un sy’n gweithio tuag at warchod natur weld lle mae angen i adnoddau cael eu defnyddio.
Croesawodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yr adroddiad hwn gan ddweud:
“Mae'r adroddiad heddiw yn nodi blaenoriaethau clir ar gyfer adferiad natur yng Nghymru. Mae diffyg o £7 biliwn yn y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni ein hymrwymiadau 30 erbyn 30 yng Nghymru. Ond drwy fuddsoddi ym myd natur heddiw, bydd Cymru’n dod yn fwy gwydn yn wyneb newid hinsawdd drwy liniaru difrod stormydd a achosir gan lifogydd, gwyntoedd a thonnau. Gall pob £1 a fuddsoddir heddiw arbed bron i £7 mewn costau iechyd yfory. Bydd pobl Cymru hefyd yn elwa o fywyd a gyfoethogir gan natur.”
Am fersiwn llawn neu fersiwn hawdd ei darllen o'r adroddiad, ewch i'r ddolen isod. Dim ond drwy roi byd natur yn gyntaf y byddwn yn gallu sicrhau dyfodol mwy gwyllt i genedlaethau i ddod, a nawr yw’r amser i weithredu.