Mae ‘Gororau Gwylltach’ yn disgrifio tirwedd naturiol a diwylliannol unigryw o boptu i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n cynnwys blaenddyfroedd Afon Llugwy, Afon Tefeidiad ac Afon Clun. Yn ymestyn dros ryw 100,000 hectar, mae’r ardal yn gartref i gymunedau gwledig sydd wedi hen sefydlu ac mae’n frith o goetiroedd hynafol, rhostiroedd a mawndiroedd, dolydd llawn blodau, porfeydd coediog a ffriddoedd, sef cynefin ucheldirol arbennig o brysgwydd a glaswelltir. Mae gan y Gororau hefyd ardaloedd o ffermio dwys yn ogystal â phlanhigfeydd coedwig lle mae byd natur yn ei chael hi’n anodd ffynnu. Nod menter Gororau Gwylltach ydy galluogi rhwydwaith o ystadau, ffermydd, coedwigoedd, gwarchodfeydd natur a thiroedd comin i helpu natur i ffynnu unwaith eto.
Prosiect Cymru-Lloegr newydd i adfer natur a rhoi hwb i ffyniant gwledig ar draws y Gororau hanesyddol
Mae’r Gororau wrth fy modd ac mae’r prosiect newydd cyffrous yma’n cynnig cyfle gwych i adfer y dirwedd hon oedd unwaith yn doreithiog ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Oherwydd eu lleoliad daearyddol, mae gan y Gororau ran hanfodol i’w chwarae mewn storio dŵr, sicrhau cadernid ecolegol a lliniaru effeithiau’r argyfyngau o ran yr hinsawdd a natur. Mae’r diwygio presennol i gymorthdaliadau ffermio wedi cyflwyno cyfle i ddatblygu modelau busnes newydd a fydd yn helpu i gynnal incymau ffermydd yn ogystal â chaniatáu adfer natur ledled y dirwedd amaethyddol. Gan weithio gyda chymunedau lleol a thirfeddianwyr, bydd menter Gororau Gwylltach:
-
yn adfer ac yn creu cynefinoedd sydd wedi’u colli, gan gynnwys mawndiroedd, coetiroedd brodorol a glaswelltir
-
yn ailsefydlu prosesau naturiol ar draws sianeli afonydd, gorlifdiroedd a gwlyptiroedd i helpu i leihau’r risg o lifogydd a gwella ansawdd dŵr
-
yn amddiffyn, yn ehangu ac yn hybu cadarnleoedd rhywogaethau prin sydd ar ôl, fel y bele, y gylfinir a’r gragen las berlog dŵr croyw
-
yn creu ‘tirweddau buddsoddadwy’ a fydd yn cysylltu tirfeddianwyr a ffermwyr â chyfleoedd cyllid gwyrdd a ddaw i’r fei i helpu i greu ffrydiau incwm hyfyw ar gyfer yr economi wledig
-
yn annog ffermio atgynhyrchiol, gan gynnwys pori er cadwraeth gyda bridiau brodorol
-
yn hybu ac yn datblygu cynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol
Meddai Helen O’Connor, pennaeth datblygu yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig:
“Dydy natur ddim yn glynu at ffiniau gwledydd neu siroedd a dyna pam y mae gweithio ar raddfa tirwedd yn y Gororau mor gyffrous i ni. Efallai fod y rhanbarth yn rhan o Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig, ond un tirwedd sydd yma ac mae’n haeddu cael ei hamddiffyn â naws ddofn am le. O ystyried y dreftadaeth ddiwylliannol y mae cymunedau’r Gororau’n ei rhannu, fel pedair Ymddiriedolaeth Natur leol, mae gennym ni gyfle gwych i weithio gyda phobl leol, tirfeddianwyr, ffermwyr a chyrff anllywodraethol i nodi ardaloedd o bwysigrwydd strategol a chyfleoedd a fydd o fudd i gynefinoedd, bywyd gwyllt a phobl.”
Meddai Iolo Williams, cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu a’r is-lywydd ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur:
“Mae’r Gororau wrth fy modd ac mae’r prosiect newydd cyffrous yma’n cynnig cyfle gwych i adfer y dirwedd hon oedd unwaith yn doreithiog ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Buaswn i’n hoffi’n fawr gweld caeau’r Gororau yn llawn rhywogaethau fel y gylfinir, y gornchwiglen a’r bras melyn, pyllau dŵr wedi’u llenwi â madfallod dŵr a llyffaint, a dolydd gwair llawn blodau gyda phryfed yn sïo o’u cwmpas unwaith eto. Yng Nghymru, rydyn ni wedi colli adar eiconig fel yr eos a bras yr ŷd – ac mae llygoden bengron y dŵr nawr wedi’i chyfyngu i ychydig o safleoedd yma ac acw ac maen nhw’n bendant ar drengi. Mae Gororau Gwylltach yn rhoi gweledigaeth i ni i helpu natur sydd mewn argyfwng a dwi’n annog pawb i gefnogi’r fenter yma.”
Meddai Dr Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer y dirwedd yn yr Ymddiriedolaethau Natur :
“Y llynedd, cadeiriodd y DU grŵp uchelgeisiol yn y Gynhadledd ar Amrywiaeth Fiolegol a sicrhaodd gytundeb rhyngwladol hanesyddol i adfer 30% o foroedd a thiroedd diraddiedig i ganiatáu i natur ffynnu unwaith eto. O ystyried cyflwr arswydus y byd naturiol, mae hyn yn rhywbeth a fydd yn newid pethau er gwell. Ond mae’n bwysig cofio, gan fod 80% o’n tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, mae’n rhaid i’r gymdeithas gefnogi ffermwyr i ddod o hyd i ffyrdd o gyrraedd y targed cyffrous hwn. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwyrddu ein heconomi wledig mewn ffordd sy’n deg i ffermwyr ac i natur, ar adeg pan y mae systemau cymorthdaliadau amaethyddol yn newid ac y mae perthnasoedd masnachu newydd yn gwneud rhannau o ffermio ym Mhrydain yn llai proffidiol. Diben Gororau Gwylltach ydy sicrhau bod y pontio hwnnw’n digwydd.”
Tony Norman, dywed amaethwr yn sir Henffordd:
“Gyda’r colledion Taliadau Sylfaenol sydd ar ddod, bydd ein diwydiant yn gweld newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd. Mae'n rhaid i ni wella ein priddoedd, lleihau ein costau a 'pentyrru' ffynonellau incwm eraill. Bydd cael mynediad at daliadau am wasanaethau fel dal a storio carbon, Enillion Net Bioamrywiaeth a rheoli llifogydd, yn galluogi gwelliannau o ran cysylltu cynefinoedd natur hanfodol, yn ogystal â chefnogi gweithgarwch fel rheoli perthi a phlannu coed.”
“Mae prosiect Gororau Gwylltach yn ceisio rhoi cymorth i dirfeddianwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn, gan hyrwyddo ffermio cynaliadwy, ffrydiau incwm gwyrdd ac adfer naturiol er budd bywyd gwyllt a busnesau fferm lleol fel ei gilydd. Drwy gydweithio ar draws y dirwedd ehangach, bydd yn ein galluogi i helpu glanhau afonydd a nentydd y Gororau a gweld mwy o fywyd gwyllt yn ôl ar ein ffermydd."
Bydd prosiect Gororau Gwylltach yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth pobl leol o rôl atebion sydd wedi’u seilio ar natur ac yn eu hannog i gymryd camau er budd natur. Ei nod ydy helpu i adfer bioamrywiaeth a sicrhau bod yna ddigonedd o rywogaethau ac, yn fwy eang, helpu i feithrin dealltwriaeth ar y cyd o dreftadaeth naturiol, synnwyr o berchnogaeth a gobaith o economi a chyflogaeth wledig. Mae strategaeth 2023 yr Ymddiriedolaethau Natur wrth wraidd y rhaglen.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: shropshirewildlifetrust.org.uk/gororau-gwylltach
Nodiadau i’r Golygyddion
Dyfyniad ychwanegol: Meddai Jan McKelvey, pennaeth cadwraeth yn Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig:
“Rhyfeddol, ac ie, gwyllt weithiau (a’r tywydd yn unig ydy hynny); mae gan y Gororau le arbennig yn fy nghalon. Mae’n dirwedd o ochrau dyffrynnoedd coetirol, clytwaith o gaeau ochr yn ochr ag afonydd troellog a chopaon bryniau rhostirol garw. Yn ei ganol mae’r bobl a’i greodd – cenedlaethau fu’n ei’n ei amaethu ac sydd heddiw dal yn ymdrechu i ennill bywoliaeth o’r dirwedd annwyl hon. Mae’r prosiect hwn yn edrych i’r dyfodol a sut y gallwn ni gefnogi’r bobl yn ogystal â bywyd gwyllt a sicrhau ei fod yn dal i fod yn lle arbennig.”
Ariannu
Mae menter Gororau Gwylltach wedi derbyn grant oddi wrth Ymddiriedolaeth Elusennol 1989 John Swire ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf yn ei datblygu. Yn ogystal â’r gronfa honno, mae Gororau gwylltach yn bwriadu defnyddio modelau ‘cyllid gwyrdd’ newydd i gynhyrchu ffrydiau incwm tymor hir ar gyfer rheolwyr tir ac ar gyfer y rhaglen. Mae’r rhain yn cynnwys taliadau cynnydd net bioamrywiaeth, credydau carbon a maethynnau a chynlluniau adfer natur. Mae’n bosibl i raglen Gororau Gwylltach fanteisio ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol a ariennir yn gyhoeddus i gefnogi gwaith tirfeddianwyr i adfer natur.
Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig
Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig (SWT) weledigaeth o fyd naturiol sy’n ffynnu, lle y mae bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr mewn mynd i’r afael â’r argyfyngau o ran yr hinsawdd ac ecoleg, a lle y mae pobl wedi’u hysbrydoli a’u grymuso i gymryd camau er budd natur. Rydyn ni’n cyfuno prosiectau ledled Swydd Amwythig (yn enwedig Telford a Wrekin) gydag eiriolaeth ac ymgyrchu i adfer natur ac i gael pobl i ymgysylltu. Rydyn ni’n rheoli mwy na 40 o warchodfeydd natur ac mae gennym ni bron i 50 o aelodau o staff, 300 o wirfoddolwyr a thros 9000 o aelodau. Mae SWT yn elusen hunanlywodraethol, ond rydyn ni’n gweithio fwyfwy ar y cyd, fel rhan o’r Ymddiriedolaethau Natur, i sicrhau bod y camau rydyn ni’n eu cymryd yn lleol yn cael effaith genedlaethol ac yn helpu i ddatrys problemau byd-eang.
Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed
Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed (RWT) yn elusen gofrestredig sy’n rhan o’r ffederasiwn o 46 o Ymddiriedolaethau Natur sy’n gweithio ledled y DU i warchod ac adfer natur, gan ysbrydoli pobl i gysylltu a chymryd camau er budd bywyd gwyllt. Mae gennym ni fwy na 1,000 o aelodau ac, ar hyn o bryd, rydyn ni’n rheoli 18 o warchodfeydd natur ac 1 fferm sydd â 400Ha o dir. Mae RWT o’r farn, os y byddwn ni’n gweithredu nawr gyda’n gilydd ar draws cymunedau ac yn strategol gyda thirfeddianwyr a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, y gallwn ni greu newid positif er mwyn adfer natur a lliniaru newid hinsawdd – gan leihau ei effeithiau a lleddfu yn erbyn newidiadau sydd wedi magu gwreiddiau. Ewch i
Ymddiriedolaeth Natur Swydd Henffordd
Ymddiriedolaeth Natur Swydd Henffordd ydy’r sefydliad cadwraeth natur seiliedig ar aelodaeth mwyaf yn y sir, gyda mwy na 6,500 o aelodau, 500 o wirfoddolwyr a 60 o warchodfeydd natur ledled Swydd Henffordd. Mae gan yr Ymddiriedolaeth 60 mlynedd o brofiad yn rheoli safleoedd sy’n werthfawr i fywyd gwyllt a phobl ac mae’n rhedeg amrywiaeth o brosiectau a mentrau mewn partneriaeth, o raglenni addysg amgylcheddol i brosiectau cadwraeth, i warchod, adfer a dathlu tirweddau a bywyd gwyllt Swydd Henffordd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhan o’r ffederasiwn o 46 o Ymddiriedolaethau Natur â’u seiliau ledled Ynysoedd Prydain.
Ers 1982, mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (MWT) wedi bod yn gweithio i gadw a gwarchod bywyd gwyllt yn ein cornel arbennig o Gymru. Rydyn ni’n rheoli 18 o warchodfeydd natur sy’n cwmpasu mwy na 510 hectar ac mae gennym ni bron i 2,000 o aelodau a rhyw 300 o unigolion sy’n gwirfoddoli â ni. Er ein bod yn elusen gofrestredig annibynnol, rydyn ni hefyd yn rhan o’r ffederasiwn o 46 o Ymddiriedolaethau Natur sy’n gweithio ledled y DU.
Ymddiriedolaeth Elusennol 1989 John Swire
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol 1989 John Swire yn ddigon caredig i gyfrannu at ariannu cyfnod Datblygu’r Rhaglen.