Ddoe, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi’r targed 30 erbyn 30. Mae hynny'n golygu y caiff 30% o'r tir a'r môr ei amddiffyn erbyn 2030.
Gyda rhan gyntaf Cynhadledd Fioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) ar y gweill a Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn dechrau mewn ychydig, rydym yn croesawu'r newyddion hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cwrdd â’r alwad i adfer natur i gyd erbyn 2030. Rhaid inni osgoi’r temtasiwn o ddynodi ardaloedd fel Parciau Cenedlaethol, oherwydd yn anffodus nid yw'r mwyafrif yn cael eu rheoli'n ar gyfer natur mewn gwirionedd.
Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus - mae rhai yn galw hyn y difodiant torfol nesaf. Rydym wedi colli dros 60% o’r holl fioamrywiaeth ar y blaned ers 1970, sef fewn un genhedlaeth. Heddiw mae 1 o bob 7 rhywogaeth yn y DU mewn perygl o ddiflannu ac mae bywyd gwyllt oedd unwaith yn gyffredin bellach yn dod yn brin.