
Prosiect newid yn yr hinsawdd i ieuenctid Cymru gyfan gydag uchelgais mawr!
Mae'r chwe Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gyda help pobl ifanc Cymru. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a bywyd gwyllt yn eu hardal leol mewn ymgais i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. O Gaerdydd drefol i sir Drefaldwyn wledig, mae pobl ifanc yn sefyll dros natur a'u dyfodol. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn gwneud safiad.
Maen nhw’n brwydro dros ein moroedd glas hardd, ein coetiroedd gwyrdd hyfryd, a'n bywyd gwyllt gwerthfawr.
A wnewch chi ymuno â nhw?

Tom Marshall
Pam nawr?
Mae’n bwysicach nag erioed gweithredu dros natur. Ar hyn o bryd rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur, gydag 17% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant. Ond gallwn newid hyn. Drwy sicrhau adferiad natur, gallwn a byddwn yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gall cynefinoedd sy’n ffynnu gloi llawer iawn o garbon yn ddiogel, a darparu manteision hanfodol eraill sy'n ein helpu i addasu, fel atal llifogydd, dŵr glân a gwella iechyd a lles.
Mae byd natur yn wynebu anawsterau; nid yw hynny’n gyfrinach. Ond mae gobaith o hyd! Mae prosiectau fel Sefyll dros Natur Cymru yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i genedlaethau'r dyfodol ac, yn bwysicach, yr angerdd i sefyll dros natur. Rydw i'n hynod falch o weld y prosiect anhygoel yma’n cael ei lansio heddiw ac rydw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd pobl ifanc Cymru yn ei gyflawni!Cyflwynydd y BBC
Cymerwch ran yn eich ardal leol
Mae gennym ni staff ledled Cymru, cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth Natur leol i weithredu dros yr hinsawdd yn eich ardal chi!

©Stand for Nature Wales
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:
Cysylltwch â Laura yn Ceredigion
Cysylltwch â Meg yng Nghaerdydd
Darganfyddwch fwy ar wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:
Cysylltwch a Megan ar yn Ynys Môn ar gyfer bob dim daearol!
Cysylltwch a Charlotte ar yn Ynys Môn ar gyfer bob dim morol!
Darganfyddwch mwy ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:
Cysylltwch a Petra yng Nghasnewydd
Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Listen to Petra and her youth group talk about Stand for Nature Wales!
Petra from Gwent WT talks about Stand for Nature Wales (https://youtu.be/L8xxWZmaJ8I)
Credit - Gwent Wildlife Trust
Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:
Cysylltwch Silvia yn Sir Faesyfed
Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.

Nature crafts at Gilfach Nature Reserve
Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect yn eich ardal leol:
Mwy o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.

Fe wnes i ymuno â'r prosiect yma oherwydd dylai newid yn yr hinsawdd fod yn flaenllaw ym meddwl pawb ac rydw i’n teimlo y gall y prosiect yma, ynghyd ag eraill, alluogi i hynny ddod yn realiti os bydd digon o bobl yn ymuno â'r achos. Mae'n ddechrau rhywbeth a all ddatblygu i fod yn gyfranogiad ledled y wlad.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth gan brosiect ieuenctid anhygoel Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru Ein Glannau Gwyllt
Our Wild Coast (https://www.youtube.com/watch?v=YCUYHhJwBw0&t=1s)
Our Wild Coast was a pioneering youth environmental project delivered by NWWT between July 2016 - March 2021. Here the Trust's youth team look back on an incredible five years of wild adventures and outline their hopes for the future.
