Mae Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn croesawu'r cynigion yn yr ymgynghoriad:
“Bydd y Cynllun yn sicrhau bod ffermwyr ar eu hennill yn ogystal â’r trethdalwyr. Am y tro cyntaf, byddwn yn gweld ffermwyr yn cael eu cydnabod am eu rôl hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Bydd y Cynllun yn helpu dod â natur yn ôl i’n tirweddau, megis adfer corsydd mawn i storio carbon a helpu i liniaru llifogydd. Bydd incwm ffermwyr yn cael ei gefnogi tra bod cymunedau’n elwa o fynediad i gefn gwlad ac aer a dŵr glanach.
“Mae sicrhau bod byd natur yn cael ei adfer ar dir fferm yn golygu buddsoddi yn nyfodol ffermio yng Nghymru. Bydd adfer byd natur, sef un o amcanion allweddol y Cynllun hwn, yn ein galluogi i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth adfer ecosystemau a bywyd gwyllt ar ffermydd Cymru i’w cynorthwyo i addasu i newid yn yr hinsawdd.”
Mae Tim Birch, Uwch Reolwr Polisi ac Eiriolaeth gydag Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn gweld hwn fel cyfle unwaith mewn cenhedlaeth:
“Gan bod tua 80% o dir Cymru yn ffermdir, bydd gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy rôl hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng Hinsawdd a Natur. Mae Cymru yn un o’r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf, gydag un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn gyfle hanesyddol i sicrhau bod ffermwyr yn gallu cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy tra’n gwarchod ac adfer byd natur.”
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod 30% o Gymru yn cael ei reoli’n effeithiol ar gyfer byd natur erbyn 2030. Credwn fod targed o reoli 10% o ffermdir Cymru ar gyfer byd natur, y bydd rhaid i bob fferm ei fabwysiadu os ydyn nhw’n ymuno â’r Cynllun, yn ddechreuad da. Ond rydym hefyd yn gobeithio y bydd ffermwyr ledled Cymru yn mynd y tu hwnt i hyn drwy weithio gyda’u cymdogion i adfer cynefinoedd bywyd gwyllt ar raddfa fwy, a hynny er mwyn cynnig manteision ehangach i gymunedau Cymru. Gobeithio hefyd y bydd y Cynllun yn chwarae rhan arwyddocaol wrth fynd i’r afael â phroblemau difrifol llygredd afonydd sy’n deillio o lygredd amaethyddol ledled Cymru.”
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r gymuned ffermio i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn llwyddiant i ffermwyr a byd natur ledled Cymru.