Morwellt
Beth yw o?
Morwellt yw'r unig blanhigyn blodeuol sy'n gallu byw mewn dŵr môr a pheillio tra mae o dan y dŵr. Mae’n tyfu mewn grwpiau mawr yn aml gan edrych fel glaswelltir ar y tir - dôl o dan y dŵr.
Mae pedair rhywogaeth o forwellt yn y DU: dwy rywogaeth o dusw arfor a dwy rywogaeth zostera, sy’n cael ei adnabod yn gyffredin fel gwellt y gamlas.
Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd
Mae gan blanhigion a dolydd morwellt y potensial i ddal a storio llawer iawn o garbon sydd wedi toddi yn ein moroedd ni – gelwir hwn yn ‘garbon glas’. Yn yr un ffordd ag y mae coed yn cymryd carbon o'r aer i adeiladu eu boncyffion, mae morwellt yn cymryd carbon o'r dŵr i adeiladu eu dail a'u gwreiddiau. Wrth i blanhigion morwellt farw a chael eu disodli gan egin a dail newydd, mae'r deunydd marw yn casglu ar wely'r môr ynghyd â sylwedd organig (carbon) o organebau marw eraill. Mae'r deunydd yma’n cronni gan ffurfio haenau o waddod morwellt, a all storio carbon yng ngwely'r môr am filoedd o flynyddoedd os na fydd unrhyw darfu arno.
O ystyried bod morwellt yn dal carbon ar gyfradd o 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol, ac yn cyfrif am 10% o gyfanswm claddu carbon y cefnfor (er ei fod yn gorchuddio llai na 0.2% o wely’r cefnfor), dyma un o’n hatebion naturiol pwysicaf i’r argyfwng newid hinsawdd.
Pam fod o fel hyn?
Mae morwellt yn dibynnu ar lefelau uchel o olau ar gyfer ffotosynthesis i dyfu ac felly dim ond mewn dŵr bas i ddyfnder o tua 4 metr y mae posib ei ddarganfod.
Mae gwreiddiau’r planhigion wedi’u hangori mewn llaid, tywod neu raean mân, gan weithredu i sefydlogi gwely’r môr ac atal erydiad, sy’n cael yr effaith bellach o helpu i sefydlogi a gwarchod yr arfordir ehangach.
Mae'r dail yn gul ac yn hir, gan ffurfio cynefin tri dimensiwn sy'n caniatáu i ystod eang o rywogaethau fyw yn yr ardal. Mae’r glaswelltau trwchus yn achosi i gerrynt y dŵr arafu ac yn caniatáu i faethynnau setlo, gan ddenu mwy o fywyd gwyllt yn ei dro.
Dosbarthiad yn y DU
Mae morwellt i'w gael o amgylch arfordir y DU mewn ardaloedd cysgodol fel porthladdoedd, aberoedd, môr-lynnoedd a baeau.
Beth i edrych am
Gall y dail gael eu gorchuddio gan algâu, anemonïau a slefrod môr hirgoes prin, tra bo’r gwaddod meddal o amgylch y gwreiddiau yn gartref i folysgiaid, deudroediaid bach iawn, mwydod gwrychog ac ecinodermau.
Mae amodau cysgodol dôl o forwellt yn llecyn meithrin perffaith ar gyfer lledod ifanc, ac maen nhw’n gartref i’r ddwy rywogaeth frodorol o fôr-feirch yn y DU. Ar lanw isel, mae adar dŵr fel y chwiwell a gwyddau duon yn bwydo ar y morwellt sy’n dod i’r golwg, gyda heidiau enfawr yn chwilota'n swnllyd am fwyd ar hyd y lan.
Cadwraeth
Clefyd gwastraffus oedd achos y gostyngiad aruthrol mewn morwellt yn y DU yn y 1930au. Mae'r adferiad dilynol wedi cael ei lesteirio gan gynnydd mewn tarfu gan bobl, fel llygredd a tharfu corfforol oherwydd treillio, defnydd o offer pysgota symudol a datblygiadau arfordirol.
Mae carthion sy'n cael eu rhyddhau sy’n cynnwys lefel uchel o faethynnau’n hynod wenwynig i forwellt, ac mae hefyd yn sbarduno tyfiant algâu a all gael y gorau ar forwellt drwy leihau'r golau haul sydd ar gael. Mae rhywogaethau estron, gan gynnwys Spartina anglica a Sargassum muticom, yn cael effaith hefyd drwy gystadleuaeth.
Mae gallu morwellt i leihau cyflymder cerrynt yn gallu arwain at lygryddion yn cronni yn y gwely morwellt. Darganfuwyd bod sawl metel trwm yn lleihau gallu'r planhigyn i sefydlogi nitrogen, gan leihau ei allu i oroesi.
Yn fyd-eang, mae 30,000km2 o forwellt wedi’i golli yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, sy’n cyfateb i 18% o arwynebedd y byd. Mae’r DU wedi colli tua 90% o’i dolydd morwellt, gyda hanner y rhain wedi’u colli yn ystod y 3 degawd diwethaf.
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am adferiad byd natur yn y môr. Gallwch helpu drwy addo eich cefnogaeth a dod yn Ffrind i Barthau Cadwraeth Morol.