Beth yw gwlypdiroedd?
Mae gwlypdiroedd yn llefydd arbennig a nodweddir gan lefelau dŵr uchel, priddoedd llawn dŵr, a phlanhigion wedi addasu'n arbennig. Efallai eu bod yn wlyb yn barhaol neu'n gorlifo'n dymhorol yn unig. Mae corsydd, glaswelltir gwlyb, gorlifdiroedd a ffeniau’n wlypdiroedd.
Mae'r rhain yn llefydd lle mae dŵr a thir sych yn cyfarfod, ac maent yn gartref i ystod eang o rywogaethau, o weision y neidr a mursennod i’r gylfinir hirgoes a’r gïach; o blanhigion cigysol i löynnod byw byrlymus. Mae gwlypdiroedd yn llefydd gwych i weld amrywiaeth enfawr o adar. Yn gyforiog o bryfed, gyda chyfoeth o blanhigion ac yn hafan i famaliaid, mae gwlypdiroedd yn cynnig profiad bythgofiadwy.
Pam mae gwlypdiroedd yn bwysig?
Mae'r ardaloedd hardd hyn yn rhan hanfodol o'n byd naturiol – mae bywydau anifeiliaid, planhigion a phobl yn dibynnu ar eu cyflwr iach. Mae gwlypdiroedd iach yn storio carbon ac yn arafu llif y dŵr, gan ei lanhau'n naturiol a lleihau'r perygl o lifogydd i lawr yr afon. Maent yn gartref i lawer o blanhigion sydd, yn ei dro, yn darparu cysgod perffaith, meithrinfeydd a thiroedd bridio ar gyfer bywyd gwyllt.
Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd
Mae deunydd planhigion yn pydru'n gyson ac yn cronni yn amodau dwrlawn gwlypdiroedd, sy'n golygu eu bod yn hynod bwysig ar gyfer dal carbon. Fodd bynnag, mae gallu cynefin gwlypdir dŵr croyw i ddal carbon yn amrywio yn ôl cyflwr y gwlypdir.
Mae rheolaeth dda yn hanfodol i sicrhau y gall y cynefin storio mwy o garbon am flynyddoedd i ddod. Mae hefyd yn hanfodol bod ein gwlypdiroedd o ansawdd uchel sy'n weddill yn cael eu diogelu, oherwydd gall gymryd degawdau i wlypdiroedd wedi’u hadfer allu tynnu carbon i lawr ar yr un gyfradd â gwlypdiroedd naturiol.
Bygythiadau a phwysau
Gall gwlypdiroedd gronni carbon am ganrifoedd, ond mewn rhai rhannau o'r DU rydym wedi colli mwy na 90% o'n cynefin gwlypdir. Rhwng 2006 a 2012, newidiwyd mwy na 1,000 hectar o wlypdir yn arwynebau artiffisial.
Mae gorgorsydd yn arbennig wedi cael eu dinistrio ac mewn rhai mannau maent yn dal i gael eu dinistrio neu eu diraddio drwy dorri mawn ar raddfa ddiwydiannol ar gyfer tanwydd neu ddefnydd mewn gerddi.
Mae gwlypdiroedd yn amrywio'n fawr. Mae rhai gwlypdiroedd yn helaeth iawn, fel gorgors, tra bod eraill yn naturiol yn fwy lleol, fel nentydd a sgydau dŵr yn yr ucheldir. Mewn achosion eraill, yn enwedig yn yr iseldiroedd, mae draeniad ar gyfer amaethyddiaeth a thorri mawn ar raddfa ddiwydiannol wedi lleihau neu ddinistrio llawer o wlypdiroedd. Erbyn hyn, dim ond ffracsiwn o'r hyn oeddent unwaith yw’r ardaloedd o orgors, ffeniau a chorslwyni.
Mae rhai mathau o wlypdiroedd wedi'u diogelu'n gyfreithiol bellach, ond er gwaethaf hynny nid yw llawer ohonynt mewn cyflwr da o hyd.
Cadwraeth ac adferiad
Mae polisïau i ddiogelu gwlypdiroedd, fel cyfyngu ar echdynnu dŵr (tynnu dŵr ohonynt), yn ogystal â phrosiectau i'w hadfer, yn adnoddau pwysig i helpu'r DU i adeiladu atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd.
Drwy leihau draeniad a gorechdynnu dŵr, cefnogi dychweliad afancod, a throi afonydd yn naturiol, bydd gwlybdiroedd yn gallu cloi mwy o garbon, cefnogi mwy o fywyd gwyllt, a darparu llawer o fanteision hanfodol eraill fel atal llifogydd!