Byddwch yn barod i siarad dros fyd natur!
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd y DU yn cynnal Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024 ac mae’n hollbwysig bod llais byd natur yn cael ei glywed.
Mae’r Etholiad Cyffredinol yma’n hynod o bwysig i fywyd gwyllt a gofod gwyllt ledled y DU, a thu hwnt. Mae’r DU eisoes wedi’i dosbarthu fel un o’r gwledydd sydd wedi’i colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur, a’r Llywodraeth newydd fydd yn gyfrifol am drawsnewid hyn.
Gallwch wneud yn siŵr bod byd natur yn cael y flaenoriaeth mae'n ei haeddu - os ydych chi’n bleidleisiwr neu'n ymgeisydd, rydych wedi dod i'r lle iawn! Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am flaenoriaethau'r Ymddiriedolaethau Natur, a sut gallwch chi weithredu gan feddwl am fyd natur, isod.
Digwyddiadau i ddod
Adnoddau Etholiad Cyffredinol i chi
Ar gyfer ymgeiswyr
Ein blaenoriaethau ni ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gynllun i atal a gwyrdroi'r dirywiad mewn bywyd gwyllt.