Afancod yng Nghymru
Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o'n strategaeth Tirweddau Byw ac rydym bellach yn gobeithio ymgymryd ag ailgyflwyno dan reolaeth i Gymru.
Pam mae afancod yn bwysig?
Roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg, ond oherwydd gorhela gan bobl am eu ffwr, eu cig a'u chwarennau arogl, prinhau fu eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg Ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.
Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Fe'u gelwir yn 'rhywogaeth allweddol' oherwydd gall eu gweithgareddau fod o fudd i ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy'n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd.
Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr natur. Maen nhw’n gwneud newidiadau i'w cynefinoedd sy'n creu gwlybdiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddiogelu ein treftadaeth naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n hoff o fywyd gwyllt i ymuno â nhw.