Mae yna gymaint o newyddion drwg am yr amgylchedd, mae’n anodd bob yn optimistaidd weithiau. Ond yma yna obaith o hyd. Roedd neges adroddiad diweddar y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn glir. Os bydd llywodraethau’n gweithio ar y cyd, mae modd iddyn nhw dorri allyriannau nwyon ty gwydr ac achub y byd.
Does dim angen edrych yn bell i weld tystiolaeth am newid yr hinsawdd. Dros yr haf welson ni danau gwyllt yn nwyrain Canada, llifogydd yn yr Almaen ac wedyn rhagor o danau gwyllt yn Nhwrci, Gwlad Groeg a Siberia, heb sôn am lifogydd a sychder nes adref hefyd yng Ngwledydd Prydain. Fe wnaeth adroddiad yr IPCC gadarnhau’r hyn yr oedd llawer ohonom yn wybod yn barod, fod gweithareddau dynol yn newid ein hinsawdd ni.
Roedden ni’n gwybod am flynyddoedd fod yr hinsawdd yn newid, ond wnaethon ni ychydig iawn i’w atal. Wedyn, fe wnaeth un llais sbarduno mudiad, sef Greta Thunberg.
“"Rydyn ni ar ddechrau difodiant torfol, a'r cyfan y gallwch chi siarad amdano yw arian a straeon y tylwyth teg am dwf economaidd tragwyddol. Sut meiddiwch chi wneud hynny!" - Greta Thunberg
Fel y nododd Greta Thunberg, mae yn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Nid yw'r argyfwng natur ar raddfa fyd-eang bob amser mor ddramatig, ond argyfwng go iawn ydy o. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn 2019 yn datgan yn glir bod 73 o rywogaethau, o durturod i fras yr yd, eisoes wedi diflannu yng Nghymru tra bod 666 o rywogaethau eraill mewn perygl o ddioddef yr un dynged.