Ddydd Mercher, 1 Tachwedd, rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn trafodaeth banel am ‘Y ffordd ymlaen i natur ac amaeth yng Nghymru’ yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2023. Mae’n gyfle gwych i mi roi cyhoeddusrwydd i adroddiad a ysgrifennwyd ar y cyd gyda’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni: – Farming at the Sweet Spot_1.pdf (wildlifetrusts.org) Mae’r adroddiad yn dangos sut y gall cynhyrchu bwyd gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn naturiol ar y tir a pheidio â defnyddio plaladdwyr a gwrtaith synthetig yn galluogi fferm i wneud elw tra’n dod â budd natur.
Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, sydd wedi bod yn mynd ers pum mlynedd, yn gynhadledd ffermio annibynnol a drefnir gan dîm o ystod o sefydliadau yn y sectorau bwyd, ffermio a sectorau eraill ac sy’n rhedeg dros ddau ddiwrnod. Cynhelir y gynhadledd eleni ar 1af-3ydd Tachwedd yn Llysfasi < Coleg Cambria, un o brif ganolfannau addysg diwydiannau’r tir Cymru. Wedi’i hysbrydoli gan yr Oxford Real Farming Conference 🌾 4-5 Jan 2024 (orfc.org.uk), y nod yw agor sgyrsiau am ddyfodol bwyd yng Nghymru, gan fapio system fwyd gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif a sut i ddechrau ei hadeiladu.
Yn agor y diwrnod cyntaf bydd Sarah Dickins, ffermwr organig a chyn ohebydd economeg y BBC, sydd bellach yn gweithio gyda Wales Net Zero 2035, ac mae rhaglen orlawn o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y gynhadledd. Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau Cynhadledd 2023 Conference – CGFFfC 2022 WRFFC
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi ymrwymo i wrthdroi dirywiad byd natur yn y DU a rheoli 30% o'r tir a'r môr ar gyfer byd natur yn effeithiol erbyn 2030 - 30 erbyn 30 | Wildlife Trusts Wales (wtwales.org). Ni fyddwn yn adfer natur trwy barhau i wneud pethau yn yr un modd; mae angen inni gefnogi a gwobrwyo ffermwyr am adferiad natur. Fodd bynnag, i gyflawni hyn, mae angen trawsnewid ein systemau bwyd a ffermio yn radical, gan gynnwys newid sylfaenol yn ein dealltwriaeth o ffermio a natur.
Mae natur yn sail i'n system fwyd. Mae systemau cynhyrchu bwyd angen ystod amrywiol o blanhigion, anifeiliaid, bacteria a ffyngau, ar gyfer cyflenwi bwyd yn uniongyrchol ac i gynnal y prosesau ecosystem sylfaenol sy'n gwneud amaethyddiaeth yn bosibl - o gyflenwad dŵr i ffrwythlondeb pridd, peillio a rheoli plâu yn naturiol. Ond mae ein system fwyd wedi torri. Mae Adroddiad Diogelwch Bwyd y DU 2021 United Kingdom Food Security Report 2021 - GOV.UK (www.gov.uk) yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth yw’r ddau fygythiad mwyaf i sicrwydd bwyd hirdymor yn y DU.
Mae trawsnewid systemau ffermio a bwyd yn hanfodol i adferiad byd natur, addasu i’r hinsawdd, a diogelwch bwyd. Mae dwysáu ffermydd yn aml yn cael ei weld fel llwybr i fwy o broffidioldeb, ond mewn gwirionedd, mae’n gyrru dirywiad pellach ym myd natur ac yn arwain at gynefinoedd diraddiedig, priddoedd gwael, a dirywiad mewn poblogaethau pryfed buddiol sydd yn dwysáu’r problemau a achosir gan newid hinsawdd.
Yng Nghymru, mae 90% o’r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, ac felly, mae gan ffermio rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau adferiad byd natur ac hinsawdd ond mae angen newid system. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn credu bod yn rhaid symud yn sylfaenol oddi wrth arferion amaethyddol dwys tuag at ddull gweithredu sy’n gweld ffermio a’r amgylchedd yn fuddiol i’r ddwy ochr ac yn gyd-ddibynnol.
Polisi amaethyddiaeth sy'n siapio ein cefn gwlad; ers degawdau, mae hyn yn aml wedi bod ar draul bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol. Mae blynyddoedd o gynlluniau amaeth-amgylcheddol a stiwardiaeth wedi methu ag atal dirywiad byd natur, gydag 1 o bob 6 rhywogaeth yng Nghymru bellach yn wynebu difodiant. Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn gweithio gyda ffermwyr a Llywodraeth Cymru i newid hyn. Mae adferiad bywyd gwyllt yng Nghymru yn dibynnu ar bolisi ffermio sy’n galluogi ffermwyr i greu ac adfer amgylchedd naturiol ffyniannus ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy domestig.
Bydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda ffermwyr a busnesau i gyflawni trawsnewidiad cyfiawn i’r sector amaethyddol. Rydym yn argymell yn gryf na ddylai unrhyw newidiadau mewn systemau ffermio gael eu gwneud i ffermwyr ond gyda ffermwyr. Bydd eu harbenigedd, eu hymroddiad, eu profiad a’u hymwybyddiaeth o le yn hanfodol i lunio dyfodol cynaliadwy.
Mae angen i ni roi iechyd ein hamgylchedd wrth galon ein polisi rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu newid y system bresennol a dylunio cynllun ffermio a rheoli tir newydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus.
Y ffordd ymlaen i ffermio a natur yng Nghymru yw drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cychwyn yn 2025. Elfen allweddol o’r cynllun yw’r haen Gydweithredol, lle bydd ffermwyr yn cael eu hannog a’u talu i gydweithio ar draws y dirwedd. Dyma lle rydyn ni’n credu y byddwn ni’n cael y budd mwyaf i fyd natur. Gallai hyn fod yn goetiroedd glannau afon sy’n mynd trwy sawl fferm, cynnydd mewn cynefinoedd bywyd gwyllt (y targed o 10%) sydd wedi’i gysylltu ar draws ffermydd, ymdrech ar y cyd i adfer mawndiroedd, adfer gwlyptiroedd ar raddfa’r dirwedd ac ati.
Mae partneriaethau traws-sector yn cyflwyno cyfleoedd cyffrous. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur eisiau adfer byd natur ar raddfa fawr, a thrwy hynny fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth ysbrydoli cymunedau lleol a llunwyr polisi. Mae gan amaethyddiaeth rôl allweddol i’w chwarae wrth gynnal tirwedd Cymru tra’n cefnogi cydlyniant cymunedol gwledig, diogelu adnoddau naturiol helaeth Cymru a darparu buddion diwylliannol a llesiant ychwanegol.
Yn ymuno â mi ar y panel bydd Huw Foulkes, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur; Geraint Jones, Cyswllt Ffermio; a Rhian Pierce, RSPB Cymru. Bydd y drafodaeth yn cael ei chadeirio gan Carwyn Graves o Tir Glas (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).