Dim Natur. Dim Dyfodol.
Bywyd gwyllt iach ac amgylchedd ffyniannus yw’r ateb i lawer o’r problemau sy’n ein hwynebu heddiw. Heb natur, ni fydd unrhyw fwyd, dim twf, dim diogelwch, dim tawelwch meddwl. Dim dyfodol.
Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymosodiad ar fyd natur - gan awgrymu mai 'beichiau' yw'r deddfau sydd yn eu lle i'w hamddiffyn. Mae angen i'ch AS ddeall canlyniadau'r gweithredoedd hyn a chael ei alw i #AmddiffynNatur.
Anfonwch gerdyn post at eich AS
Hoffech chi fod yma? Efallai ddim yn hir...
Rydym yn ofn bydd llai o amddiffyniad a llai o reoleiddio yn arwain at fwy o gemegau ar ein strydoedd a’n caeau, mwy o garthion yn ein hafonydd, mwy o blastigau yn ein moroedd a mwy o straen wrth i’n llefydd gwyrdd gael eu dinistrio. Yn y pen draw, llai o fywyd gwyllt a llai o leoedd gwyllt.
Ond gall eich AS helpu i #AmddiffynNatur a chymryd lleisiau lleol o ddifrif. Gofynnwch iddynt godi llais drwy anfon cerdyn post a fydd yn glanio ar fat drws eu swyddfa.
Dewiswch eich cerdyn post
Os hoffech anfon eich cerdyn post yn Saesneg, gallwch ddewis o un o'r pedwar opsiwn isod. Cliciwch ar y llun i ddewis.
Ydach chi eisiau anfon cerdyn post at eich AS San Steffan yn Gymraeg?