Ffermio sy'n gyfeillgar i byd natur

Ross Hoddinott/2020VISION

Ross Hoddinott/2020VISION

Help farmers help nature!

Nature-friendly farming

Mae adfer bywyd gwyllt a byd natur yn cynnwys caniatáu i erddi dyfu'n wyllt, gwneud dinasoedd yn wyrddach, a sicrhau bod gwarchodfeydd natur yn gallu ffynnu. Ond mae’r ffordd mae ein bwyd ni’n cael ei dyfu a sut mae ein caeau ni’n cael eu ffermio yn cael effaith aruthrol hefyd ar fyd natur.

Oeddech chi’n gwybod bod tua 80% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth?

Drwy symud oddi wrth arferion amaethyddol dwys a thuag at ddulliau adfywiol, cyfeillgar i fyd natur, mae gan ffermio botensial enfawr i helpu byd natur i adfer.

Yn ei dro, mae cynhyrchu bwyd byd-eang yn dibynnu ar systemau naturiol ffyniannus i ddarparu pridd iach, dŵr diogel a digonol, peillwyr buddiol, a hinsawdd sefydlog.

Mae newid hinsawdd eisoes yn niweidio cynhyrchiant bwyd Cymru. Mae cyflwr ein pridd ni’n dirywio, gan gyfyngu ar faint o fwyd y gellir ei dyfu, tra bo gaeafau cynhesach yn cynyddu lledaeniad clefydau cnydau.

Ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur yw'r ateb i'r bygythiadau cynyddol hyn.

Ross Hoddinott/2020VISION

Ross Hoddinott/2020VISION

Mae angen i ni helpu ffermwyr i helpu byd natur

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cyfeirir ato fel yr ‘SFS’, yw’r cynlluniau cyllido ôl-Brexit newydd ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir yng Nghymru. Os caiff y cynlluniau hyn eu dylunio a’u cyflawni’n gywir, gallai’r SFS fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur, a fyddai’n helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt ac yn dod â byd natur yn ôl ledled Cymru.

Byddai newid i ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur nid yn unig yn llesol i fyd natur, ond gallai hefyd helpu ffermwyr i gynyddu eu helw a hybu gwytnwch fferm yn wyneb bygythiadau fel newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni eisiau i’r SFS gefnogi ffermwyr i sicrhau adferiad byd natur ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Ond nid yw’r SFS a chymorth polisi ehangach, fel cyngor ac arloesi, yn berffaith ac mae angen i ni fod yn rhoi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau, gwella’r gyllideb a sicrhau llwybr clir i gynyddu uchelgais dros amser.

Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ffermwyr?

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn credu bod rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r polisi amaethyddol ehangach ein paratoi ni ar gyfer argyfyngau’r 21ain ganrif – costau byw cynyddol, newid hinsawdd, a cholli byd natur. Rydyn ni eisiau gweld y canlynol:

• Cynlluniau taliadau fferm sy'n mynd ymhellach, ac yn gyflymach, wrth gefnogi ffermwyr i ddod â byd natur yn ôl i'w busnesau fferm.

• Newidiadau polisi sy'n helpu i roi diwedd ar y ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwrteithiau artiffisial.

• Dulliau diogelu cryfach i leihau llygredd yn ein dyfrffyrdd ni. Llygredd o ffermio yw prif achos llygredd yn ein hafonydd mwyaf eiconig ni yng Nghymru bellach, fel Afon Gwy.

• Tystiolaeth y bydd polisïau ffermio yn cyflawni yn erbyn targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gofyniad cyfreithiol i atal dirywiad byd natur erbyn 2030, targed i gyrraedd sero net erbyn 2050, a Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal sydd newydd ei lofnodi ac sy'n nodi bod rhaid diogelu 30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Beth allaf i ei wneud?

Mae angen i ni ddangos i Lywodraeth Cymru bod cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur.

Dangoswch eich cefnogaeth i ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur drwy gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd (AS). Gallwch anfon e-bost neu ysgrifennu llythyr. Os oes gennych chi amser, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw siarad â'ch AS dros y ffôn neu gwrdd ag ef neu hi wyneb yn wyneb. Os ydych chi'n brin o amser ond eisiau gwneud gwahaniaeth, fe allwch chi drydar eich AS.

Beth i'w ddweud wrth eich AS?

Pwyntiau trafod

Os ydych chi’n ysgrifennu at eich AS, yn siarad ag ef neu hi dros y ffôn neu’n cyfarfod wyneb yn wyneb, mae’n bwysig bod yn glir ynghylch beth yw eich pryderon, a sut rydych chi eisiau i’ch AS weithredu. 

Mae’n well rhoi eich pryderon yn eich geiriau eich hun. Siaradwch ynghylch pam mae'r mater hwn yn bwysig i chi. Er enghraifft, efallai eich bod yn colli clywed yr ehedydd yn rheolaidd neu efallai eich bod wedi sylwi ar y dirywiad enfawr mewn pryfed yn ystod eich oes. Rhannwch eich stori: mae AS’au wrth eu bod gyda straeon personol eu hetholwyr.

Siaradwch ynghylch pam eich bod yn pryderu am y materion allweddol, gan gynnwys y canlynol:

• Colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiadau mwyaf yn y tymor canolig a’r tymor hir i gynhyrchiant bwyd y DU.

• Does dim y fath beth â sicrwydd bwyd os yw byd natur yn dirywio.

• Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei diwygiadau ffermio yn cyflawni ar gyfer yr amgylchedd fel yr addawyd.

• Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr SFS yn talu cyfraddau da am arferion ffermio uchelgeisiol ac effeithiol sy'n gyfeillgar i fyd natur.

 

Unwaith y byddwch chi wedi egluro beth yw eich pryderon, mae angen i chi ofyn yn glir i'ch AS beth rydych chi eisiau ei weld yn cael ei wneud. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn argymell y canlynol:

• Gofyn i’ch AS ddarllen papur briffio AS’au yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae’n rhoi mwy o fanylion am y materion, polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru a’n hargymhellion ni. Mae'n fyr, yn syml ac yn rhoi'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnynt i deimlo'n hyderus wrth ofyn am y pwnc. Lawrlwythwch y papur briffio yma.

• Gofyn i’ch AS siarad o blaid ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur, yn y Senedd ac yn ysgrifenedig.

• Gall AS’au ofyn cwestiwn yn y Senedd

• Gall AS’au ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyda'u pryderon a'u cwestiynau

• Rydyn ni eisiau iddynt ofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr SFS yn cyflawni targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ac nid dim ond yn cyllido busnes fel arfer. Mae angen iddynt ofyn am sicrwydd bod yr SFS yn cynnwys safonau uchelgeisiol a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl a byd natur.

• Eu hannog i siarad â ffermwyr lleol am y cymorth sydd arnynt ei angen i ddefnyddio dulliau natur-gyfeillgar.

Sut mae ysgrifennu at fy AS?

Gallwch anfon e-bost neu ysgrifennu llythyr at eich AS.

E-bostiwch eich AS gan ddefnyddio ein hadnood

I ddarganfod pwy yw eich AS, a gweld ei fanylion cyswllt, chwiliwch am eich cod post gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Dod o hyd i'ch AS

Mae AS’au yn bobl brysur iawn, felly peidiwch â digio os na fyddant yn dod yn ôl atoch chi ar unwaith.

Sut mae cyfarfod fy AS?

Eich opsiwn gorau ar gyfer cyfarfod eich AS yw gofyn am gyfarfod yn eich etholaeth. Efallai y bydd yn haws i chi gyfarfod yn ystod un o'i gymorthfeydd etholaethol. Dyma pryd mae eich AS yn cwrdd â'i etholwyr i siarad am bethau sy'n effeithio arnyn nhw ac i bobl godi pryderon am wleidyddiaeth neu faterion lleol. Mae’n fwy tebygol fyth o allu cyfarfod â chi pan mae’r senedd ar doriad.

Sut gallaf wneud fy nghyfarfod yn effeithiol?

Mae AS’au eisiau clywed gennych chi, ond mae pwysau arnyn nhw am amser felly peidiwch â disgwyl i gyfarfodydd bara'n rhy hir. Yn gyffredinol, bydd apwyntiadau’n para tua 10 i 15 munud – mae’n helpu i gael eich negeseuon allweddol yn barod.

Gwyliwch y recordiad hwn o weithdy a gynhaliwyd gan ein Swyddog Ymgyrchoedd ni, Chris, er ei fod yn sôn am ysgrifennu at ASau San Steffan, mae’r un peth yn wir am AS’au Senedd Cymru gan ei fod yn ymdrin â phopeth sydd arnoch angen ei wybod, o gamau ymarferol i sut i ddarbwyllo. Erbyn diwedd y recordiad, byddwch yn teimlo'n barod i siarad â'ch AS.

Rhowch wybod i ni os byddwch yn clywed yn ôl gan eich AS

Gwyliwch y recordiad

Rhowch wybod i ni os byddwch yn clywed yn ôl gan eich AS

Byddem wrth ein bodd yn clywed am hynny os bydd eich AS yn ymateb i chi neu os byddwch yn llwyddo i gael cyfarfod. Rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom ar info@wtwales.org

“Ers degawdau, mae’r dewis rhwng bwyd neu natur wedi cael ei gyflwyno fel un deuaidd, gyda’r ddau alw cystadleuol am dir yn cael eu hystyried yn aml fel rhai gwrthgyferbyniol. Fodd bynnag, ni allai hyn fod ymhellach oddi wrth y gwir. Y prif fygythiadau i ddiogelwch bwyd yn y DU yw newid yn yr hinsawdd a chwalfa ecolegol, ac felly mae adferiad byd natur yn hanfodol fel sail i systemau bwyd gwydn a phroffidiol.”
Craig Bennett
Prif Weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Natur