Bod yn actif dros fywyd gwyllt ym mis Hydref eleni!

Bod yn actif dros fywyd gwyllt ym mis Hydref eleni!

(c) Zsuzsanna Bird

Addaswch eich her codi arian 30km i helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i adfer byd natur!

Addaswch eich her codi arian 30km i helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i adfer byd natur!

Nod Taith Gerdded Wyllt Fawr / Big Wild Walk yr Ymddiriedolaethau Natur yw bod y mwyaf eto i annog pobl sydd wrth eu bodd gyda bywyd gwyllt i godi arian a helpu i adfer byd natur ledled y DU.

Gall y cefnogwyr greu eu her eu hunain gyda'r nod o gerdded 30 cilometr mewn unrhyw ffordd sy'n addas iddyn nhw. Bydd yr arian sy’n cael ei godi’n cefnogi adferiad bywyd gwyllt ac yn cyfrannu at genhadaeth yr Ymddiriedolaethau Natur i ddiogelu 30% o dir a môr y DU ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn arwain llu o brosiectau ledled y wlad i ddod â byd natur yn ôl. Gall cerddwyr y Daith Gerdded Wyllt Fawr yn Cumbria helpu i godi arian i brynu Coedwig Skiddaw, gall trigolion Swydd Bedford gefnogi ailwylltio yn Strawberry Hill, a gall pobl leol Gwlad yr Haf godi arian i adfer Honeygar, un o wlybdiroedd mwyaf y DU.

Yr hydref yma mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn annog y cyfranogwyr i enwebu ffrindiau a theulu i gymryd rhan hefyd, gydag #EnwebuDrosNatur #NominateForNature. Bydd pecyn codi arian digidol yn cefnogi pawb drwy ddarparu taflen nawdd, ffurflen tracio pellter a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Daith Gerdded Wyllt Fawr yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 21ain Hydref a dydd Sul 3ydd Tachwedd 2024. Mae’n hanner tymor i ysgolion ac yn amser gwych i bob oedran fwynhau’r awyr agored. Cofrestrwch yn wildlifetrusts.org/bigwildwalk!

Meddai Rhiane Fatinikun, sylfaenydd Black Girls Hike a llysgennad ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur: “Trochwch flaenau eich traed yn yr awyr agored yr hydref yma ac ymuno â fi, yn ogystal â miloedd o bobl eraill, i brofi'r llawenydd y gall byd natur ei gynnig. Mae cefnogi plant, teuluoedd ac unigolion i godi allan yn achos sydd mor agos at fy nghalon i, yn ogystal â bod yn gyfle anhygoel i godi arian at elusen sy’n newid bywyd gwyllt. Cofrestrwch heddiw i gymryd rhan yn y Daith Gerdded Wyllt Fawr!”

Dywedodd Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer tirweddau gyda’r Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae codwyr arian fel hyn yn gonglfaen ar gyfer adferiad byd natur ar raddfa fawr ledled y DU. Drwy fynd am dro ar droed neu ar olwynion rownd y bloc, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ddod â byd natur yn ôl. Rydyn ni eisiau plannu coedwigoedd lle roedden nhw’n bodoli ar un adeg, ailgyflwyno anifeiliaid fel afancod yn ôl i gefn gwlad, ac ailwylltio ein moroedd ni. Ewch am dro ar yr ochr wyllt a helpwch ni i adfywio bywyd gwyllt y DU yr hydref yma!”

Darllenwch ymhellach am gynlluniau rhai pobl i godi arian yr hydref yma isod – o Sophie 7 oed yng Nghaint i Grace 18 oed yng Nghymru.

Notes to editor

Case studies

Sophie Pilcher, 7, Caint

  • Mae Sophie yn 7 oed ac yn dod o Sittingbourne yng Nghaint. Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi mwynhau cymryd rhan yn Nhaith Gerdded y Draenogod, fersiwn i blant o’r Daith Gerdded Wyllt Fawr. Mae’r digwyddiad codi arian elusennol yn rhoi rheswm gwych i Sophie a’i theulu godi allan, mwynhau cefn gwlad ac ymweld ag ambell siop gacennau hyd yn oed!
     
  • Y llynedd (2023) fe gofnododd Sophie fwy na 30km yn cerdded i warchodfa natur Cromer’s Wood gerllaw ac archwilio’r llu o lwybrau a thraciau yng nghefn gwlad yr ardal ger ei chartref. Yn ffotograffydd ac yn awdur brwd, manteisiodd Sophie ar y cyfle i dynnu lluniau ar hyd y ffordd a manylu ar ei hanturiaethau yn ei llyfr nodiadau wrth stopio mewn siopau cacennau!
     
  • Noddodd ei ffrindiau a'i theulu ei hymdrechion ac roedd wrth ei bodd yn derbyn bathodyn pin hardd a ddangosodd yn falch i'r ysgol yn y gwasanaeth boreol.
     
  • Dywedodd Sophie: “Rydw i wrth fy modd gyda’r Daith Gerdded Wyllt Fawr; mae'n hwyl ac rydyn ni'n helpu byd natur.”

Freya, 21, Ucheldiroedd yr Alban

Mae Freya yn 21 oed ac yn byw yng ngorllewin Cymru ond yn teithio i fyny i Ucheldir yr Alban ar gyfer ei her fel rhan o’r Daith Gerdded Wyllt Fawr.

  • Bydd ei ffrind, Tez, a’u ceffylau – Dolly a Mocca – yn ymuno â hi i farchogaeth / cerdded 30km y dydd ar daith 3 diwrnod ar hyd arfordir dwyreiniol yr Alban i’r gorllewin.
     
  • Yn gobeithio cael gyrfa fel cyfreithiwr amgylcheddol, mae gan Freya ddiddordeb arbennig yn y mecanweithiau cyfreithiol a allai helpu i gyflawni 30x30.
     
  • Dywedodd Freya “Wrth dyfu i fyny yn y de ddwyrain roeddwn i wedi arfer gyda golygfeydd gwag o ofod gwyrdd, ond i fyny yn yr Alban mae’r tirweddau gymaint yn fwy byw! Fe fyddwn i wrth fy modd yn taro i mewn i gath wyllt ar fy antur, ond byddaf yn fwy na hapus os caf gip ar ddyfrgi yn lle cath fawr!”
     

Grace Gavigan, 18, De Cymru

  • Mae Grace Gavigan, 18 oed o Dde Cymru, wedi cymryd rhan yn her codi arian flynyddol ‘Taith Gerdded Wyllt Fawr’ yr Ymddiriedolaethau Natur am y 2 flynedd ddiwethaf, gan gerdded mwy na 100km, codi mwy na £500 a chynnal nifer o ymgyrchoedd casglu sbwriel ar y ffordd!
     
  • Mae’r fyfyrwraig ysbrydoledig yma o Brifysgol Caerdydd a Miss Earth Wales ar hyn o bryd yn angerddol am ein planed ni a diogelu ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr, a dyma pam ei bod wedi ymroi i fod yn un o #CodwyrArianGWYLLT #WILDFundraisers Arloesol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
     
  • Ar gyfer 2024 bydd Grace yn mynd yn fyd-eang gyda her y Daith Gerdded Wyllt Fawr drwy ffeirio tir cefn gwlad de Cymru am arfordir y Philippines wrth iddi fynd allan i gystadlu yn Miss Earth 2024.
  • Dywedodd Grace, “Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am warchod ein planed ni a’i bywyd gwyllt anhygoel. Mae cymryd rhan yn y Daith Gerdded Wyllt Fawr wedi bod yn ffordd werth chweil i roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd, ac rydw i’n falch o fod wedi codi arian i’r Ymddiriedolaethau Natur wrth wneud rhywbeth rydw i’n ei garu. Wrth i mi baratoi i gystadlu yn Miss Earth 2024, rydw i’n gyffrous am wynebu’r her yma yn fyd-eang, gan ffeirio cefn gwlad hardd Cymru am arfordiroedd godidog Ynysoedd y Philippines. Gyda’n gilydd, fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth, un cam ar y tro.”

Rhiane Fatinikun  

Rhiane Fatinikun yw’r ychwanegiad diweddaraf at dîm bach ond cadarn yr Ymddiriedolaethau Natur o lysgenhadon sy’n cynnwys Alison Steadman, Maddie Moate, Cel Spellman, Dave Goulson, David Oakes, Hannah Stitfall a Mya-Rose Craig ymhlith eraill. Edrychwch ar y tîm llawn yma. Sefydlodd Rhiane fudiad Black Girls Hike (BGH UK) yn 2019 i herio stereoteipiau a’r diffyg cynrychiolaeth yn yr awyr agored. Ers hynny, mae BGH UK wedi mynd o nerth i nerth, gan lansio grwpiau ledled y wlad a chynnal teithiau cerdded rheolaidd, dyddiau hyfforddi a gweithgareddau awyr agored.

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gwneud y byd yn wylltach ac yn helpu i sicrhau bod byd natur yn rhan o fywydau pawb. Rydyn ni’n fudiad ar lawr gwlad o 46 o elusennau gyda mwy na 910,000 o aelodau a 35,000 o wirfoddolwyr. Dim ots ble rydych chi ym Mhrydain, mae Ymddiriedolaeth Natur sy’n ysbrydoli pobl ac yn achub, yn gwarchod ac yn sefyll dros y byd naturiol yn eich ardal chi. Gyda chefnogaeth ein haelodau, rydyn ni’n adfer ac yn gofalu am fannau arbennig ar gyfer byd natur ar y tir ac yn cynnal prosiectau cadwraeth forol ac yn casglu data hanfodol am gyflwr ein moroedd ni. Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio o fewn ei chymuned leol i ysbrydoli pobl i greu dyfodol gwylltach – o gynghori miloedd o berchnogion tir ar sut i reoli eu tir er budd bywyd gwyllt, i gysylltu cannoedd ar filoedd o blant ysgol â byd natur bob blwyddyn. www.wildlifetrusts.org