-
Mae cyfres newydd o adroddiadau – Y Prosiect Mapio Carbon Glas – yn rhoi'r amcangyfrif cyntaf o'r carbon sy'n cael ei storio yng nghynefinoedd gwely'r môr yn y DU, gan gynnwys mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs).
-
Mae 15.7 miliwn tunnell o garbon organig yn cael ei storio mewn dim ond y 10cm uchaf o waddodion gwely'r môr (sydd wedi'u gwneud o fwd yn bennaf) yn Rhanbarth Arfordir Cymru a Môr Iwerddon, a hefyd mewn cynefinoedd gyda llystyfiant arfordirol, gan gynnwys morfeydd heli a gwelyau morwellt. Mae 70% o'r carbon hwn yn cael ei storio mewn MPAs.
-
Mae tarfu ar wely'r môr, gan gynnwys treillio ar y gwaelod a datblygiadau alltraeth, yn cael eu nodi fel bygythiadau i storfeydd carbon glas, wrth i elusennau byd natur alw am warchodaeth gryfach i foroedd y DU.
Mae'r adroddiad yn rhan o'r Prosiect Mapio Carbon Glas, sydd wedi’i gwblhau gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Forol yr Alban (SAMS) ar ran WWF-UK, yr Ymddiriedolaethau Natur a'r RSPB. Mae’r gyfres o adroddiadau’n golygu mai’r DU yw’r wlad gyntaf i fapio ac amcangyfrif faint o garbon sydd wedi’i storio yn ei chynefinoedd gwely’r môr, gan gynnwys o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs).
Mae’r adroddiad yn datgelu bod 15.7 miliwn tunnell o garbon organig* yn cael ei storio mewn dim ond y 10cm uchaf o waddodion gwely’r môr – sydd wedi’u gwneud yn bennaf o fwd – yn Rhanbarth Arfordir Cymru a Môr Iwerddon.
Mae Rhanbarth Arfordir Cymru a Môr Iwerddon yn ymestyn dros 43,112 o gilometrau sgwâr. Mae’r ardal eang hon yn gartref i gynefinoedd sy’n dal ac yn storio carbon, a elwir yn ‘garbon glas’. Maent yn cynnwys gwaddodion gwely’r môr (sydd wedi’u gwneud o fwd, llifwaddod a thywod), cynefinoedd sydd â llystyfiant (dolydd morwellt, morfeydd heli, coedwigoedd môr-wiail a gwymon rhynglanwol), gwelyau maerl a riffiau biogenig, fel gwelyau cregyn gleision a riffiau llyngyr y diliau.
Mae carbon yn cael ei amsugno'n bennaf gan ffytoplancton, sy'n drifftio i waelod y môr pan maent yn marw ac yn cael eu hychwanegu at waddod gwely'r môr. Dadansoddodd yr ymchwil gynhwysedd storio dim ond y 10cm uchaf o waddod. Mae rhai gwaddodion yn gannoedd o fetrau o drwch ac yn cynnwys gwerth milenia o garbon, felly bydd cyfanswm y carbon sy’n cael ei storio yn llawer mwy.
Mae’r Prosiect Mapio Carbon Glas yn amlygu sut mae tarfu corfforol ar wely’r môr, gan gynnwys gweithgarwch dynol fel treillio ar y gwaelod, yn ogystal ag angorfeydd a datblygiadau alltraeth, yn fygythiad i storfeydd carbon glas. Gall tarfu ar gynefinoedd gwely’r môr ryddhau llawer iawn o garbon i’r atmosffer, gan waethygu’r newid yn yr hinsawdd.
Mae WWF, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r RSPB yn galw ar lywodraethau ledled y DU i gryfhau’r warchodaeth i storfeydd carbon glas gwerthfawr – gan gynnwys mewn MPAs – drwy leihau effeithiau gweithgareddau dynol ar wely’r môr. Ni ddynodwyd y rhan fwyaf o’r MPAs i ddiogelu carbon glas, a gallai methu â gwarchod yr ardaloedd hyn rhag tarfu fygwth nodau hinsawdd a bioamrywiaeth – gan gynnwys sero net a diogelu 30% o’r môr erbyn 2030.
Mae WWF, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r RSPB yn galw am y canlynol:
Gwell rheolaeth ar MPAs
-
Sicrhau bod yr holl MPAs yn cael eu gwarchod rhag gweithgareddau dinistriol sy'n niweidio cynefinoedd carbon glas ac yn bygwth bywyd morol.
-
Ystyried carbon a bioamrywiaeth wrth ddynodi ardaloedd gwarchodedig newydd, i gefnogi gwytnwch ecosystemau a'r rôl y mae moroedd yn ei chwarae mewn lliniaru o ran yr hinsawdd.
Gwell cynllunio strategol ar gyfer gweithgareddau ym moroedd y DU
-
Ystyried carbon glas yng nghynlluniau morol y DU, gan osgoi gweithgareddau niweidiol mewn MPAs ac ardaloedd allweddol eraill ar gyfer carbon glas a bywyd gwyllt sydd heb eu gwarchod.
-
Lleihau effeithiau pysgota a datblygiadau drwy gynnal asesiadau effaith carbon glas.
-
Cefnogi trawsnewid cyfiawn i ddiwydiannau pysgota oddi wrth weithgareddau sy'n niweidio gwely'r môr.
Mwy o fuddsoddiad ac ymchwil i ddiogelu carbon glas
-
Dyrannu cyllid i adfer cynefinoedd, gan gynnwys gwelyau morwellt a morfeydd heli.
-
Cefnogi ymchwil a monitro deinameg carbon glas.
-
Ychwanegu morwellt a morfeydd heli at y Gofrestrfa Nwyon Tŷ Gwydr i dracio a monitro allyriadau.
Dywed Penny Nelson, Arweinydd Polisi ac Eiriolaeth Adfer Cefnforoedd yn WWF Cymru:
"Mae'r adroddiad hwn wedi tynnu sylw at werth aruthrol cynefinoedd morol Cymru wrth helpu i liniaru effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r wybodaeth newydd yma am yr ardaloedd lle mae llawer iawn o garbon yn cael ei storio i ddiogelu cynefinoedd morol presennol er mwyn sicrhau bod y carbon yma’n parhau i fod dan glo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn pwysleisio’r brys i Lywodraeth Cymru gyflawni ymrwymiad ei Rhaglen Lywodraethu i sefydlu cynllun i warchod ac adfer morwellt ledled Cymru.”
Meddai Joan Edwards, cyfarwyddwr polisi morol ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur:
“Mae’r adroddiadau hyn, sy’n rhai cyntaf yn y byd, yn datgelu gwerth enfawr moroedd y DU, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwarchod llawer o ardaloedd yn well. Mae angen i lunwyr polisïau wneud penderfyniadau strategol i gydnabod gwerth carbon glas drwy leihau effaith gweithgareddau dynol ar wely’r môr. Ni ddylai gweithgareddau niweidiol fel treillio ar y gwaelod a datblygiadau mawr ddigwydd mewn ardaloedd gwarchodedig. Mae’r ymchwil yma’n rhoi cyfle i’r DU arwain y byd wrth warchod carbon glas a bioamrywiaeth forol.”
Dywed Kirsten Carter, pennaeth polisi morol y DU gyda’r RSPB: “Mae cyflymu’r ymdrechion ar y tir i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd yn hollbwysig, ond rhaid i ni beidio â diystyru rôl moroedd y DU. Mae'r adroddiad yma’n newid ein gwybodaeth ni am yr amgylchedd morol ac yn ased enfawr i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Nawr mae angen iddynt weithredu ar ei ganfyddiadau. Er mwyn cyrraedd sero net ac atal dirywiad bioamrywiaeth mae'n rhaid i ni weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae hyn yn golygu adfer cynefinoedd, cynllunio datblygiad alltraeth yn briodol, a buddsoddi mewn ardaloedd gwarchodedig i ddiogelu bywyd gwyllt a chadw carbon glas dan glo.”
Dywed yr Athro Mike Burrows, Cymdeithas Gwyddoniaeth Forol yr Alban:
“Mae deall faint o garbon morol sy’n cael ei storio, a ble mae, yn hanfodol ar gyfer llywio ymdrechion i gynnal a gwarchod gallu cynefinoedd arfordirol a gwely’r môr i barhau i wasanaethu’r swyddogaeth hon. Mae morfeydd heli a gwelyau morwellt yn fannau storio carbon sylweddol, ac mae gwelyau môr-wiail, ac yn enwedig ffytoplancton, yn cyfrannu llawer iawn o garbon organig bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae union ffracsiwn y carbon hwn sy'n cael ei storio mewn gwaddodion yn parhau i fod yn ansicr. Drwy gyfuno ffynonellau gwybodaeth amrywiol, rydyn ni wedi cael gwybodaeth werthfawr am wely'r môr ar hyd yr arfordir. Mae’r broses hon hefyd wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol yn ein gwybodaeth ni am gyfraddau cronni carbon mewn gwaddodion.”
*Sylwer na ddylai carbon organig gael ei drawsnewid yn garbon deuocsid cyfwerth yn yr achos hwn oherwydd rhyngweithiad cymhleth carbon atmosfferig a'r cefnfor.