Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar i gael gwared ar safleoedd caeedig a gweithredu er mwyn i afancod gael byw’n wyllt
Heddiw, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn cyhoeddi Gweledigaeth ar gyfer dychwelyd afancod i Gymru a Lloegr gan gyflwyno'r achos dros ddod â'r rhywogaeth allweddol hon yn ôl i afonydd yn y ddwy wlad. Mae afancod yn adnabyddus am eu heffeithiau hynod fuddiol ar wlyptiroedd a gallent chwarae rhan bwysig wrth atal llifogydd, hidlo dŵr a hybu cynefin bywyd gwyllt.
Dair blynedd ers dechrau ymgynghoriad Defra ar afancod a bron i ddwy flynedd ers i ddeddfwriaeth gydnabod afancod yn swyddogol fel rhywogaeth frodorol yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi methu dro ar ôl tro â rhoi’r camau angenrheidiol ar waith ar gyfer eu dychwelyd. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi trwyddedau ar gyfer dychwelyd afancod i’r gwyllt yn Lloegr a chyhoeddi cynlluniau strategol i alluogi ailgyflwyno afancod. Yng Nghymru mae diffyg deddfwriaeth o hyd ar ddiogelu afancod a galluogi eu rheolaeth effeithiol. Er gwaethaf arwyddion gwleidyddol blaenorol y byddai gollyngiadau i’r gwyllt yn cael eu caniatáu, nid yw wedi digwydd hyd yn hyn.
Mae gweledigaeth newydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn egluro sut y byddai rhyddhau afancod i’r gwyllt – yn hytrach na mewn safleoedd caeedig a ganiateir ar hyn o bryd –yn galluogi afancod i ddod yn rhan o'n hecoleg frodorol, gan ddarparu'r offeryn adfer naturiol mwyaf pwerus i'n gwlyptiroedd dan fygythiad, ynghyd a llu o fanteision i gymdeithas.
Ym marn Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer tirwedd yr Ymddiriedolaethau Natur:
“Mae manteision afancod yn cael eu cydnabod yn eang ac mae llawer o dystiolaeth – ond ledled Cymru a Lloegr, mae’r broses o ailgyflwyno’r rhywogaeth allweddol hon wedi arafu. Mae astudiaethau gwyddonol niferus wedi dangos bod afancod yn gwella ansawdd dŵr, yn sefydlogi llif dŵr yn ystod cyfnodau o sychder a llifogydd, ac yn rhoi hwb enfawr i gynefinoedd ac i fywyd gwyllt arall. O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae angen afancod yn ôl yn y gwyllt i roi help llaw i ni ddatrys yr heriau hyn.”
“Mae natur angen afancod - ond ar hyn o bryd mae'r mamaliaid hynod yma unai yn byw mewn llociau ble mae'r budd i'r gymuned yn gyfyngedig, neu wedi cael eu rhyddhau yn anghyfreithlon heb gynlluniau rheolaeth i gefnogi rheolwyr tir. Mae’n rhaid i Lywodraethau’r DU dderbyn bod afancod yma i aros a chofleidio’r nodweddion cadarnhaol gwych a ddaw yn eu sgil, fel y gall cymdeithas elwa hefyd.”