Mae crynodeb blynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur o fywyd ym moroedd y DU yn cyflwyno straeon o obaith a thorcalon trwy gyfarfyddiadau syfrdanol, llwyddiannau cadwraeth a heriau i fywyd gwyllt morol ac arfordirol. Mae uchafbwyntiau ac isafbwyntiau 2023 yn cynnwys y canlynol:
- Bwrlwm bwydo peli abwyd yn llawn tiwna asgell las yr Iwerydd a morfilod cefngrwm a morfilod asgellog llwyd yn bennaf
- Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig cyntaf erioed wedi'u dynodi yn y DU
- Perygl o darfu gan bobl, llygredd a’r ffliw adar.
Dywedodd Dr Lissa Batey, pennaeth cadwraeth forol yr Ymddiriedolaethau Natur:
“Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn hanesyddol i gadwraeth forol gyda chreu’r Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig cyntaf yn nyfroedd Lloegr. Mae hon yn garreg filltir enfawr a gyflawnwyd diolch i flynyddoedd o ymgyrchu gan ein cefnogwyr ni sy’n hoff o’r môr. Bydd y safon aur newydd hon o warchodaeth yn atal pob gweithgaredd niweidiol fel treillio ac yn galluogi bywyd gwyllt y môr i adfer, gan fod o fudd i bysgotwyr a chynefinoedd sy’n storio carbon. Mae’r llefydd arbennig yma’n gorchuddio llai na hanner y cant o foroedd Lloegr – felly mae’n gam cyntaf bach iawn tuag at fwy o ddynodiadau.
“Mae rheoleiddio yn hanfodol er mwyn gwarchod y byd naturiol a gwyrdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt. Mae rhoi terfyn ar forfila masnachol wedi dod â morfilod cefngrwm a morfilod asgellog llwyd yn ôl i ddyfroedd y DU, ac mae mesurau i warchod y tiwna asgell las wedi arwain at gynnydd mawr yn y niferoedd sydd wedi’u gweld. Mae’r pysgodyn gwych yma wedi dychwelyd o fod yn agos at ddifodiant ac mae’r risg o roi terfyn ar y boblogaeth am yr eildro yn parhau i fod yn uchel – felly mae’n hanfodol bod cwotâu pysgota masnachol yn cael eu pennu’n realistig ac yn cael eu gorfodi’n drylwyr. Pan rydyn ni’n rhoi gofod i fyd natur, gall bywyd gwyllt adfer – mae mor syml â hynny. Rhaid i ni weithredu’n gyflymach i warchod targed y DU o 30% o’r moroedd erbyn 2030.”