Mae newid newydd i reoliadau llygredd amaethyddiaeth yng Nghymru yn golygu na fydd trwyddedau arfaethedig ar gyfer chwalu tail yn ofynnol i ffermwyr mwyach – yn hytrach dim ond ‘hunanadrodd’ fydd angen iddynt ei wneud am faint o dail maent yn ei roi ar gaeau. Bydd y dull gwirfoddol hwn o weithredu’n dwysau canlyniadau trychinebus dŵr ffo o ffermydd i afonydd Cymru, meddai Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
Rydym yn gwybod mai llygredd amaethyddol yw prif achos cyflwr gwael rhai o afonydd mwyaf eiconig Cymru – mae’n ffactor mwy arwyddocaol o ran eu diraddio na charthffosiaeth. Mae mwy na 60% o afonydd sydd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru – gan gynnwys afonydd Gwy ac Wysg – wedi methu â chyrraedd targedau ffosfforws. Canfu astudiaeth o ddalgylch afon Gwy fod “60 i 70% o gyfanswm y llwyth ffosffad bellach yn dod o amaethyddiaeth”. Mae’r effaith ar ansawdd dŵr a bywyd gwyllt yn niweidiol: mae nifer yr eogiaid wedi dirywio 42% yng Nghymru ac aseswyd bod holl stociau’r afonydd ‘mewn perygl’.
Roedd y rheoliad fel y cafodd ei ddrafftio yn wreiddiol yn 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr wneud cais am drwydded os oeddent yn bwriadu chwalu mwy na 170kg o nitrogen yr hectar y flwyddyn. Bydd y newid i’r gyfraith “yn disgwyl yn awr i ffermwyr hunanadrodd am unrhyw dail ychwanegol sy’n cael ei chwalu”. Bydd hyn yn caniatáu i'r lefelau uchel presennol o lygredd barhau.