Maldwyn
Osprey neu Gwalch y Pysgod
Gwal-kh uh Puss-god
Un rhywogaeth sydd wedi cael ei gysylltu ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn yw’r Osprey. Mae eu henw Cymraeg, ‘Gwalch y Pysgod’, yn cael ei gyfieithu fel ‘the fish hawk’ nol yn Saesneg oherwydd eu deiet o ‘pysgod’ er nad yw’n aelod o deulu’r hebogau.
Wedi darfod o Gymru a gweddill y DU fel rhywogaeth sy’n magu, diolch yn rhannol i ymdrechion cadwraeth ac addysgiadol Prosiect Gweilch y Pysgod yr Ymddiriedolaeth, mae’r adar hyn wedi magu’n llwyddiannus yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi bob blwyddyn ers 2011 – y tro cyntaf iddynt wedi magu yn Nyffryn Dyfi mewn 400 mlynedd! Mae Cors Dyfi, sef gwlyptir y tu allan i Fachynlleth, yn lle gwych i weld a darganfod mwy am yr adar anhygoel hyn. Gallwch eu gwylio drwy eich ysbienddrych o Dŵr Arsyllfa 360, neu fwynhau delweddau sinematig wedi’u ffrydio’n fyw yn ystafell wylio Canolfan Natur Dyfi, trwy garedigrwydd saith camera 4k cydraniad uchel o amgylch nyth Gweilch y Pysgod. Mae’r haf yn amser arbennig o dda i ymweld, gan fod y pâr magu, Idris a Telyn, yn brysur yn magu epil eleni.