Cyfle unwaith mewn oes: Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn ymuno â sefydliadau ar draws y wlad yn galw am Fil Amaeth cryf i sicrhau dyfodol i’n bywyd gwyllt.

Cyfle unwaith mewn oes: Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn ymuno â sefydliadau ar draws y wlad yn galw am Fil Amaeth cryf i sicrhau dyfodol i’n bywyd gwyllt.

Heddiw (03/05/23) yn y Senedd, mae sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF ac RSPB Cymru yn cyflwyno llythyr agored i Aelodau o'r Senedd yn gofyn iddynt sefyll dros Fil Amaethyddol cryf sy’n adfer ein bywyd gwyllt. Gyda bron i 90% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, mae’n hollbwysig bod y Bil newydd hwn yn galluogi adfer byd natur sy’n dal i ddirywio’n gyflym.

Mae Bil Amaeth (Cymru) yn ddarn hollbwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn newid wyneb ffermio yng Nghymru. Ers degawdau, nid yw ffermwyr wedi cael digon o arian i adfer natur ac mae hyn ynghyd â dwysáu amaethyddiaeth wedi arwain at golli cynefinoedd ar raddfa fawr i lawer o rywogaethau. Fodd bynnag, mae gan Gymru'r cyfle unigryw i newid y ffordd y mae amaethyddiaeth yn cael cymhorthdal, ac yn lle hynny creu system sy’n talu’r ffermwr am ‘nwyddau cyhoeddus gan gynnwys adfer natur, storio carbon ac arafu llifddwr. 

Gyd foment hollbwysig ar fin digwydd yn y Senedd, mae sefydliadau ledled Cymru wedi dod ynghyd â rhai ceisiadau allweddol i sicrhau bod byd natur yn cael ei flaenoriaethu, a’i hadfer yn weithredol ledled y wlad. Mae’r llythyr isod yn manylu ar ba mor hanfodol yw’r foment hon, a beth yw’r gofynion penodol mewn perthynas â’r Bil.

Llythyr Agored

Annwyl Aelod o’r Senedd,

Ysgrifennwn atoch i fynegi ein pryder cynyddol nad yw Bil Amaeth (Cymru) 2022 yn ddigonol i fynd i’r afael â’r angen taer i helpu i adfer natur ac achub ein hynysoedd gwyllt. Mae bron 90% o dir Cymru yn dir fferm. Felly, mae’n hollbwysig cryfhau’r Bil Amaeth i amddiffyn ac adfer natur. Rydym yn gofyn ichi bleidleisio dros Fil Amaethyddiaeth wedi’i gryfhau sy’n cynnwys y cynigion a nodir gennym isod.

Mae’r Mynegai Cyflawnder Bioamrywiaeth yn dangos bod Cymru yn un o’r gwledydd sydd â’r dirywiad mwyaf o ran natur yn y byd. Rydym wedi colli 73 o rywogaethau ers y 1970au ac mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Gymru. Nid yw’r un o’n hecosystemau naturiol yn ddigon gwydn i wynebu bygythiadau fel newid hinsawdd. Mae gweithgareddau dynol fel ffermio anghynaliadwy, gan gynnwys colli a darnio cynefinoedd, gorddefnyddio plaladdwyr, bwydydd a gwrtaith artiffisial, gor-stocio, a llygredd amaethyddol, wedi cyfrannu at sefyllfa ddiraddedig ein natur, a’r ecosystemau mae’n eu creu a’u cynnal. Mae’r enghreifftiau mwyaf eithafol o effeithiau ffermio anghynaliadwy’n cynnwys cyflwr afon Gwy ac afonydd eraill ledled Cymru, sydd bron yn farw’n ecolegol, a dinistrio ecosystemau a chynefinoedd Cymru ar y tir ac yn y môr.

Ond natur yw ein system cynnal bywyd, ac mae’n rhaid inni ei hadfer. Mae’n amddiffyn ein hiechyd, yn gofalu am ein llesiant, ac yn arf hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd; gan gynnig dŵr glân, aer glân a bwyd maethlon i bawb yn ein cymunedau. Heb natur, ni fyddai gennym yr adnoddau i gynhyrchu bwyd na chael ein treftadaeth amaethyddol gryf yma yng Nghymru. Heb natur, mae yna berygl y byddwn yn colli’r rhan hanfodol mae amaethyddiaeth yn ei chwarae yn y broses o gynnal ein heconomi a’n cymunedau gwledig. Heb natur, ni allwn sicrhau iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Er mwyn sicrhau amaethyddiaeth wirioneddol gynaliadwy yng Nghymru, rhaid i’r Bil Amaeth (Cymru) roi fframwaith cryfach sy’n sicrhau y bydd ffermio yn y dyfodol yn cynhyrchu’r bwyd sydd ei angen arnom ac yn lliniaru ac yn ymaddasu i’r hinsawdd sy’n newid ac yn adfer natur ar y raddfa a’r cyflymder angenrheidiol i’w hachub. Fodd bynnag, mae’n destun pryder inni fod y fframwaith ‘cynnal a gwella’ a sefydlwyd gan Ddeddf Amgylchedd 2016 wedi dyddio’n sylweddol erbyn hyn ac nid yw’n adlewyrchu gofynion Cytundeb Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang COP15, sy’n cynnwys rhoi terfyn ar golli natur erbyn 2030.
Felly, mae cryfhau’r Bil Amaethyddiaeth yn gyfle tyngedfennol i sicrhau ein bod ni’n rhoi terfyn ar ddirywiad cyflym ein byd naturiol, ac osgoi difodiant mwy o rywogaethau Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Hwn yw ein un cyfle ni i sicrhau cynllun cynnal amaethyddiaeth sy’n addas i genedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol, sy’n cynorthwyo’r gwaith o adfer natur yn weithredol, ac felly’n sicrhau ecosystemau cydnerth a’r buddion a ddaw ohonynt i holl bobl Cymru.

I sicrhau y caiff y Bil ei gryfhau er mwyn adfer natur - ’rydym yn awgrymu pennu llinell sylfaen tua 1970, yn unol â'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang - ac atal difodiant rhywogaethau eiconig fel y gylfinir, eog, draenog ac ystlumod, a gaiff ei hyrwyddo gan Aelodau o’r Senedd fel chi, mae arnom angen ichi gymryd y camau canlynol:

1. Cynnwys ‘adfer natur’ ar wyneb y Bil Amaeth (Cymru) o dan Amcan 3.

2. Diweddaru’r memorandwm esboniadol i gynnwys cyfeiriad penodol at Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang COP15 Kunming-Montreal ynghyd â datganiad y bydd y gweithredoedd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cyfrannu at gyflawni ei nodau.

3. Gwella ac ehangu darpariaethau mynediad cyhoeddus.

4. Cynnwys cymal machlud i’r Cynllun Taliadau Sylfaenol yn y Bil er mwyn sicrhau y bydd taliadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy yn dod i ben yn 2029 pan fydd y broses o drawsnewid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i chwblhau.

5. Sicrhau bod y Bil yn cynnwys cyfeiriad clir at yr angen am Safonau Sylfaenol Cenedlaethol sy’n hanfodol er mwyn sicrhau y caiff llinell sylfaen reoleiddiol glir ei phennu ar draws y diwydiant ffermio yng Nghymru.

6. Pleidleisio dros Fil Amaethyddiaeth wedi’i gryfhau ar 16 Mai.

Rydym yn eich annog i ystyried y dystiolaeth, i gyflwyno a/neu gefnogi gwelliannau sydd er lles natur i’r Bil a chymryd y camau mae eu hangen i sicrhau y gall amaethyddiaeth yng Nghymru gyflawni dros natur - ac yn hollbwysig - sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol wlad iach sydd er lles natur i fyw ynddi.

Rhaid inni fod yn glir – dyma ein cyfle olaf i achub natur Cymru.

DIWEDD

----------------------------------------------------

Hyd yma, mae’r llythyr wedi’i lofnodi gan 49 o sefydliadau gyda sefydliadau, elusennau, a busnesau yn dod at ei gilydd i lofnodi’r llythyr agored, gan ddangos pwysigrwydd ar y Bil hwn.

Mae Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a rheoli 30% o dir a môr yn effeithiol erbyn 2030. Os yw Cymru am gyrraedd y targed hwn ar dir, mae angen i ni alluogi ffermwyr i fod yn geidwaid cefn gwlad ond mewn cyd-destun modern. Dim ond ffermwyr all; adfer mawndiroedd i storio carbon, adfer dolydd ar gyfer rhywogaethau sydd dan fygythiad ac adfer gorlifdiroedd i liniaru llifogydd. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod adfer yn flaengar ac yn ganolog i'r meddylfryd ar gyfer y Bil.
Rachel Sharp
Ymddiriedolaethau Natur Cymru