Mae natur yng Nghymru mewn trafferth. Rydyn ni’n meddwl am Gymru fel gwlad werdd a dymunol, ond y gwir amdani yw ein bod ni’n un o’r gwledydd sydd wedi’n disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd. Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymrwymiadau pellach i achub natur. Daw hyn ar ôl misoedd o ymgynghori ag arbenigwyr, gan gynnwys yr Ymddiriedolaethau Natur, ac mae’n dangos ffocws newydd gan Lywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth.
Ym mis Rhagfyr eleni, bydd arweinwyr rhyngwladol yn cyfarfod yng Nghanada ar gyfer Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig COP15 (Cynhadledd y Partïon). Dyma COP i natur gan mai COP26 oedd y COP Hinsawdd. Yma rydym yn gobeithio y bydd arweinwyr yn arwyddo ymrwymiad newydd i ddod â natur yn ôl ar draws y blaned. Ymrwymiad allweddol fydd rheoli 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030, a elwir yn 30 erbyn 30. Cynigir hefyd y byddwn yn hanner torri llygredd maetholion, plaladdwyr 66% ac yn dileu llygredd plastig.
Heddiw (03/10/2022) mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cyhoeddi argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer 30 erbyn 30 ar gyfer COP15. Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi cyfrannu, ac rydym wedi ein calonogi gan y cyhoeddiadau heddiw, yn enwedig ar gefn ymosodiad Llywodraeth y DU ar natur yr wythnos diwethaf gyda’u bwriad i ddileu’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol.
Mae Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn croesawu’r argymhellion:
“Heddiw mae ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth. Mae angen i fwy o dir a môr gael eu rheoli ar gyfer byd natur gan ei fod o fudd i bawb yng Nghymru drwy ddal dŵr llifogydd yn ôl, storio carbon, ac yn cefnogi sut yr ydym yn cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen i ni i gyd chwarae rhan os ydym am wrthdroi’r golled ddramatig yn natur rydym yn dibynnu arno.”
Mae safleoedd gwarchodedig yng Nghymru yn allweddol i gyflawni 30 erbyn 30; dyma rai o’r ychydig feysydd lle mae natur yn ffynnu, ac maen nhw’n gorchuddio 10% o Gymru. Fodd bynnag, mae angen adfer y rhan fwyaf o’r safleoedd hyn gan gynnwys ein mawndiroedd o bwys byd-eang, felly croesewir y cyhoeddiad am fwy o adfer mawndiroedd.
Croesewir hefyd y bwriad i greu mwy o safleoedd gwarchodedig ar y tir ac ar y môr a chydnabod Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal (OECMs). Mae hwn yn dir sy’n eiddo i gyrff cyhoeddus a sefydliadau fel y Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn anffodus, nid yw dynodi safleoedd yn ddigon; rhaid eu rheoli a'u hadfer. Rydym hefyd wedi rhybuddio rhag meddwl y gall Parciau Cenedlaethol sy’n gorchuddio 28% o Gymru gael eu cyfrif gan nad yw’r tir yn cael ei reoli’n bennaf ar gyfer natur.
Bydd cyfraniad ffermio drwy gyfleoedd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd hefyd yn bwysig i gyrraedd 30 erbyn 30. Bydd ffermwyr yn cael eu talu i storio carbon, storio dŵr, a dod â natur a chynefinoedd yn ôl (a elwir hefyd yn lles cyhoeddus). Dylai’r taliadau hyn helpu mwy o ffermydd i ddod yn sefydlog yn ariannol, ond bydd angen buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i adfer bywyd gwyllt.