Beth yw morfeydd heli?
Mewn ardaloedd arfordirol wedi’u cysgodi rhag y tonnau, mae llanw sy'n symud yn araf yn golchi’n ofalus dros ehangder gwastad o laid mân, sy’n cael eu hadnabod fel fflatiau llaid. Mae fflatiau llaid o dan y dŵr ar lanw uchel ac yn dod i’r golwg ar lanw isel ac yn gartref i gyfoeth o fywyd: llyngyr gwrychog, cregyn deuglawr (molysgiaid gyda dwy gragen ar golfach) a malwod y mwd - bwyd ar gyfer heidiau o adar rhydio.
Tuag at y tir, yn absenoldeb strwythurau wedi’u gwneud gan ddyn, mae fflatiau llaid yn troi'n forfeydd heli – gyda sampier yn llystyfiant arnynt i ddechrau (yn cael ei gynaeafu ar rai safleoedd ac yn cael ei ystyried yn ddanteithfwyd) ac wedyn cordwellt, llygwyn llwydwyn, sêr y morfa a lafant-y-môr wrth i'r mwd ddatblygu i fod yn sychach. Mae cilfachau a sianelau'n dod allan drwy'r morfa heli, gan gyfeirio'r dŵr a gorlifo'r gors isaf ar lanw uchel a draenio i ffwrdd yr un mor gyflym pan mae'r llanw ar drai.
Pam mae morfeydd heli’n bwysig?
Mae gwlybdiroedd arfordirol, fel morfeydd heli, yn gartref i fywyd gwyllt helaeth gan gynnwys adar mudol. Mae morfeydd heli’n arbennig oherwydd bod y llystyfiant yn cael ei addasu i ymdopi â lefelau uchel o halen. Gall morfeydd heli ddenu rhywogaethau prin, fel y llwybig, y grymanbig ddu a’r hirgoes adeinddu, ac ymwelwyr mudol, gan gynnwys gwyddau duon. Gyda chymaint o adar gwyllt o gwmpas, yn aml mae adar ysglyfaethus yn goruchwylio’r ardaloedd hyn, gan gynnwys yr hebog tramor, y cydull bach a’r boda tinwyn!
Ateb naturiol i argyfwng yr hinsawdd
Mae carbon yn cael ei ddal gan blanhigion sy'n tyfu mewn morfeydd heli drwy ffotosynthesis ac mae'n cael ei storio yn y planhigyn a'r gwaddod oddi tano, sy'n gallu ymestyn i sawl metr o ddyfnder. Gall hectar o forfeydd heli ddal dwy dunnell o garbon y flwyddyn a'i gloi yn y gwaddodion am ganrifoedd. Os na fydd unrhyw un yn tarfu ar y morfeydd heli gall y carbon gael ei storio yn y pridd am filenia!
Bygythiadau a phwysau
Rydym yn colli bron i 100 hectar o forfeydd heli y flwyddyn. Nid yn unig hynny, mae bygythiadau fel draenio, datblygu, a lefelau'r môr yn codi yn arwain at golli a difrodi gwlybdiroedd arfordirol a morfeydd heli, gan ryddhau CO2 i'r atmosffer.
Cadwraeth ac adferiad
Mae diogelu’r morfeydd heli sy'n weddill yn fater brys; ond mae potensial hefyd i adfer a chreu cynefin newydd. Mae 'ailunioni dan reolaeth' yn un ffordd o greu cynefin newydd ac fe'i cyflawnir drwy gael gwared yn bwrpasol ar amddiffynfeydd arfordirol neu eu symud ymhellach yn ôl i mewn am y tir. Byddai cynlluniau i ailunioni 10% o barth arfordirol Lloegr erbyn 2030 yn creu 6,200 ha o gynefin ac yn cynyddu storio carbon, yn ogystal â lleihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.