Argyfwng hinsawdd a natur
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur, ac mae cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Mae newid yn yr hinsawdd yn sbarduno dirywiad natur, ac mae colli bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn ein gadael mewn sefyllfa wael i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid.
Ni ellir datrys un heb y llall.
Dyma pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar y Llywodraeth, diwydiant ac awdurdodau lleol i gamu i’r adwy a gweithredu, drwy fuddsoddi mewn adferiad natur a lliniaru newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn gwybod o brofiad y gall adfer natur helpu i amsugno allyriadau carbon, gan gyfrannu llawer o fanteision ychwanegol. Pan maent yn iach, gall ein cynefinoedd naturiol leihau'r perygl o lifogydd, helpu i atal erydu arfordirol, gwella iechyd a lles pobl, yn ogystal â chynnal priddoedd iach, dŵr glân a'r pryfed peillio sydd eu hangen ar gyfer ein cnydau – ac felly ein cynnal ni.
Mae byd natur ei hun mewn perygl o newid yn yr hinsawdd, ond os caiff ei helpu i adfer, mae ei botensial i storio carbon yn golygu y gall ein helpu i droi'r llanw ar drychineb yr hinsawdd.
Atebion carbon gwyrdd
Mae gan ein cynefinoedd ar dir rôl enfawr i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn fyd-eang, mae planhigion wedi cael gwared ar 25% o allyriadau carbon sydd wedi’u creu gan ddyn, tra mae ein priddoedd yn cynnwys mwy o garbon na sy’n cael ei storio yn y planhigion hynny a'r atmosffer gyda'i gilydd!
Atebion carbon glas
Mae gan garbon glas rôl enfawr i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae cefnforoedd yn amsugno 20 i 35% o allyriadau carbon sydd wedi’u creu gan ddyn bob blwyddyn. Mae carbon yn rhan o'r system gyfan – yn cael ei storio ym meinweoedd y planhigion a'r anifeiliaid, ac yn y mwd a'r gwaddodion.