Mae ein pryfed yn wynebu anawsterau
Yn y DU, mae ein poblogaethau o bryfed wedi dioddef dirywiad aruthrol, a fydd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i fywyd gwyllt a phobl.
Gyda thraean o'n cnydau bwyd yn cael eu peillio gan bryfed, a chymaint ag 87% o'n planhigion yn cael eu peillio gan anifeiliaid (ac fel mwyafrif gan bryfed), mae llawer i'w golli. Mae llawer o'n bywyd gwyllt, yn adar, ystlumod, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach neu bysgod, yn dibynnu ar bryfed am fwyd. Hebddynt, mae perygl i’r byd naturiol ddymchwel.
Casglodd adroddiad Insect Declines and Why They Matter a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019 â thystiolaeth at ei gilydd oedd yn dangos colli 50% neu fwy o'n pryfed ers 1970, a'r realiti dychrynllyd bod 41% o'r pum miliwn o rywogaethau o bryfed sy'n weddill ar y Ddaear bellach 'dan fygythiad o ddifodiant'.